MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Pay Scale Within: £32,433 - £49,944
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes Gwyddoniaeth - Ysgol Greenhill

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: Pay Scale Within: £32,433 - £49,944

Athro Gwyddoniaeth - Hysbyseb Swydd

o Ionawr 2026. Mae hon yn swydd amser llawn am gyfnod penodol am flwyddyn.

Mae Ysgol Greenhill, sy'n ysgol gyfun ar gyfer disgyblion 11 i 19 oed, yn gwasanaethu tref gaerog hanesyddol Dinbych-y-pysgod a'r cylch. Wedi'i lleoli o fewn ardal brydferth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae'r ysgol yn cynnig amgylchedd gofalgar, cynhwysol a chroesawgar lle mae'r disgyblion a'r staff yn falch o'u gwerthoedd a'u hethos cryf.

Mae Ysgol Greenhill am benodi athro blaengar ac arloesol arall i ymuno â'r Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth o fis Ionawr 2026. Swydd amser llawn tymor penodol am flwyddyn yw hon yn y lle cyntaf gyda'r bwriad o'i gwneud yn barhaol i'r ymgeisydd cywir.

Mae Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth yn Ysgol Greenhill yn cael ei addysgu gan dîm llwyddiannus sy'n darparu cyfleoedd rhagorol i ddisgyblion o bob oed. Adlewyrchir hyn yn y niferoedd mawr a chynyddol o ddisgyblion sy'n dewis astudio un neu fwy o bynciau gwyddoniaeth Safon Uwch yn chweched dosbarth yr ysgol. Rydym wedi blaenoriaethu'r gwaith o leihau llwyth gwaith staff, ac o'r herwydd mae'r staff o fewn y Maes Dysgu a Phrofiad yn gweithio ar y cyd, gydag adnoddau a rennir ar gyfer pob grŵp blwyddyn.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn bodloni'r canlynol:

· Yn athro gwyddoniaeth cymwys (mae'r rôl hon yn addas ar gyfer athrawon newydd gymhwyso).

· Yn frwd dros y pwnc ac yn gallu ysbrydoli ei ddisgyblion.

· Yn frwd dros sicrhau bod pob plentyn yn cael y ddarpariaeth orau bosibl er mwyn cyflawni ei botensial.

· Yn ymarferydd myfyriol sy'n awyddus i ddatblygu ei ymarfer.

· Yn gydweithiwr cefnogol a fydd yn gweithio fel rhan o dîm i gyflwyno gwersi rhagorol i ddisgyblion.

Mae'n bosibl i bydd y rôl yn cynnig y cyfle i'r ymgeisydd llwyddiannus addysgu ar Safon Uwch, er nad yw hyn yn ofyniad. Rydym yn croesawu ceisiadau gan staff sy'n arbenigo mewn Bioleg, Cemeg neu Ffiseg.

I gael gwybod mwy am y rôl, neu i drefnu ymweliad âr ysgol, cysylltwch â derbynfa'r ysgol.

Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau hollbwysig i Wasanaeth Addysg a Phlant Sir Benfro. Ein nod yw cynorthwyo plant a phobl ifanc agored i niwed i sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein hysgolion yn ymrwymedig i sicrhau diogelwch pob plentyn a byddant yn cymryd camau i ddiogelu llesiant plant, gan gydnabod bod ganddynt yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol pob ysgol.

r swydd hon yn destun gwiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Gofynnwn i bob ymgeisydd gyflwyno ceisiadau ar-lein. Os na allwch wneud hyn, cysylltwch âr Gweinyddwr Recriwtio cyn gynted â phosibl.

Os ydych chi eisoes yn ddefnyddiwr, gwnewch yn siŵr eich bod wedi mewngofnodi i'ch cyfrif cyn dechrau llenwi ffurflen gais.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Fideo Addysgu Sir Benfro: Fideo - Cyngor Sir Penfro

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.

Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal âr dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.

Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
  • Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch âm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud âr swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
  • Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.