MANYLION
  • Lleoliad: Bridgend, CF31 4WB
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon TLR2A + ADY
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 01 Hydref, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes Arbenigol Gwybyddiaeth a Dysgu

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon TLR2A + ADY

Athro/Athrawes Arbenigol Gwybyddiaeth a Dysgu
Disgrifiad swydd
32.5 awr yr wythnos

Rydym yn awyddus i benodi athro/athrawes llawn cymhelliant a brwdfrydig sydd ag angerdd gwirioneddol am addysg plant ag anghenion gwybyddiaeth a dysgu, ac sy'n ymrwymedig i hyn, ac sydd am wneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc.

Mae'r swydd hon yn gyfle cyffrous i ymgeisydd sydd â phrofiad o weithio gyda phlant sydd ag anghenion gwybyddol a dysgu, yn ogystal ag anghenion dysgu ychwanegol.

Prif ddiben y rôl yw cyfrannu at gynhwysiant addysgol plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol, anghenion gwybyddol a dysgu ar draws pob cyfnod addysg. Cynorthwyo a chynghori ysgolion yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ddiwallu anghenion y garfan hon o blant.

Drwy ddarparu hyfforddiant, cyngor a chymorth i staff ysgolion, bydd yr ymgeisydd yn chwarae rhan hanfodol wrth hwyluso amgylchedd dysgu cadarnhaol wedi'i deilwra i anghenion penodol y plant hyn.

Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd hon ac os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Rachel Garner. rachel.garner@bridgend.gov.uk neu ffoniwch 07812471792.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 01 Hydref 2025

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 02 Hydref 2025

Dyddiad y Cyfweliad: 09 Hydref 2025

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person