MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Merthyr, CF48 1AR
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £25,098 - £27,179
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £25,098 - £27,179
Ydych chi'n angerddol am helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial? Oes gennych chi'r sgiliau a'r empathi i gefnogi dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ar eu taith i fwy o annibyniaeth? Os felly, byddem wrth ein bodd i chi ymuno â'n tîm ymroddedig.Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymorth i Ddysgwyr ymroddedig, brwdfrydig a pherson-ganolog i chwarae rôl allweddol wrth gefnogi myfyrwyr, yn bennaf yn ein hadran Sgiliau Byw'n Annibynnol. Mae hwn yn gyfle gwych i wneud gwahaniaeth ystyrlon bob dydd trwy ddarparu cymorth academaidd a bugeiliol wedi'i deilwra i ddysgwyr ag ystod eang o anghenion.
Mae pob penodiad yn destun gwiriad GDG a chofrestru CGA cyn dechrau dyletswyddau.
Rydym yn disgwyl i'r holl staff hyrwyddo ein gwerthoedd byw yn y Coleg; Proffesiynol, ysbrydoledig, cydweithredol a chefnogol.
Yn y Coleg Merthyr Tudful, rydym yn sefydliad cynhwysol lle nid yn unig rydym yn derbyn gwahaniaeth ynddo - rydym yn ei ddathlu ac yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob diwylliant a chefndir.
Gwnewch gais drwy ffurflen gais yn unig.
Dyddiad Cau: 19/09/2025