MANYLION
  • Lleoliad: Pibwrlwyd, SA31 2NH
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £34,328 / blwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 17 Medi, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Ymgynghorydd Hyfforddi ac Aseswr ar gyfer Prentisiaethau Modurol

Coleg Sir Gar

Cyflog: £34,328 / blwyddyn

Ymgynghorydd Hyfforddi ac Aseswr ar gyfer Prentisiaethau Modurol
Application Deadline: 17 September 2025

Department: Dysgu Seiliedig ar Waith

Employment Type: Parhaol - Llawn Amser

Location: Campws Pibwrlwyd

Reporting To: Pennaeth Dysgu Seiliedig ar Waith

Compensation: £34,328 / blwyddyn

DescriptionPwrpas
  • Gweithio'n agos gyda chyflogwyr wrth recriwtio prentisiaid
  • Sicrhau bod yr holl fudd-ddeiliaid allweddol yn ymgysylltu'n llawn ac yn derbyn y cyfathrebiadau priodol fel bod prentisiaid yn cwblhau eu fframweithiau prentisiaeth yn llwyddiannus
  • Cynnal asesiad o'r dysgwyr yn eich galwedigaeth arbenigol, ar y safle ac yn y coleg.
  • Gweithio ar y cyd i sicrhau bod holl Ddangosyddion Perfformiad Allweddol (KPIs) y rhaglen brentisiaeth yn cael eu bodloni
  • Gweithio gyda llwyth achosion a neilltuwyd i chi o hyd at o leiaf 35 a mwyafrif o 40 o brentisiaid.
Crynodeb o'r Rôl

Mae Bwrdd Cyfarwyddwyr Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi ymrwymo i benodi'r staff gorau posibl sy'n cyflawni rhagoriaeth yn eu gwaith. Gan weithio i'r gwerthoedd a'r ymddygiadau sy'n tanategu cynllun strategol a busnes y sefydliad, mae'r Coleg yn ceisio staff sy'n arddangos creadigrwydd ac arloesedd, tra'n gyrru eu perfformiad eu hunain, a pherfformiad eraill, i ddarparu'r profiad a'r gwasanaeth gorau posibl i ddysgwyr.

Mae'r Coleg yn rhan o Gonsortiwm B-Wbl ac felly mae'n gweithio gyda nifer o bartneriaid i gynllunio, datblygu a gwerthuso dysgu seiliedig ar waith fel grŵp o Golegau Addysg Bellach a Darparwyr Hyfforddiant. Arweinir y Consortiwm hwn gan Goleg Sir Benfro.

Mae hon yn rôl gyffrous sydd wedi'i chynllunio i gefnogi'r gwaith parhaus o gyflwyno rhaglenni prentisiaeth ar draws y busnes. Byddwch yn darparu cymorth trwy sicrhau bod ansawdd rhaglenni yn bodloni'r safonau gofynnol yn fewnol ac yn allanol hefyd er mwyn darparu'r profiad a'r gwasanaeth gorau oll i'n dysgwyr.

Mae'r uned brentisiaethau yn rhan o'r adran Datblygu Busnes ac Arloesi (BDI) yn y coleg.
Mae'r BDI yn gweithio'n weithredol i ddiwallu anghenion cyflogwyr y rhanbarth, gan gefnogi sgiliau ac arloesi ar draws ystod o brosiectau a ffrydiau cyllido. Bydd disgwyl i chi ymgysylltu â'r holl fudd-ddeiliaid i sicrhau bod perthnasoedd rhagorol yn cael eu cynnal a'u meithrin.

Cyfrifoldebau AllweddolBydd disgwyl i'r Ymgynghorydd Hyfforddi/Aseswr:
  • Weithio'n agos gyda chyflogwyr i recriwtio prentisiaid o fewn sectorau blaenoriaeth presennol Llywodraeth Cymru.
  • Sicrhau bod holl KPIs y rhaglenni prentisiaeth yn cael eu bodloni.
  • Gweithio'n agos gyda'r Rheolwr Llinell ar bob agwedd o'r ddarpariaeth.
  • Cynnal rhaglenni cynefino cynhwysfawr gyda phrentisiaid a chyflogwyr.
  • Sicrhau bod Cyflogwyr Prentisiaid yn cael gwybod am gynnydd yn erbyn pob targed a phresenoldeb mewn dosbarthiadau o leiaf bob 61 diwrnod yn dilyn y canllawiau adolygu priodol.
  • Cefnogi a mentora'r dysgwyr drwy gydol eu rhaglen gan eu galluogi i gwblhau yn llwyddiannus a'u cyfeirio at y cam dysgu nesaf.
  • Cefnogi'r cyflogwr, darparu adborth ynghylch cynnydd yn rheolaidd, gan sicrhau ymrwymiad parhaus y cyflogwyr i'r dysgwr a'r rhaglen.
  • Sicrhau bod yna gyswllt effeithiol rhwng rheolwyr, athrawon, tiwtoriaid ac aseswyr i wneud yn siŵr bod cynnydd pob dysgwr yn golygu ei fod yn cwblhau ei fframwaith mewn pryd.
  • Sicrhau bod yr holl brosesau gweinyddol/digidol sy'n gysylltiedig â'r rôl yn cael eu cwblhau i'r safonau uchaf ac mewn pryd.
  • Cwblhau'r holl brosesau digidol angenrheidiol er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn cyflawni ac yn cael eu fframwaith prentisiaeth.
  • Cynnal datblygiad proffesiynol parhaus personol
  • Cynorthwyo gyda'r gwaith o baratoi, a chyfrannu at brosesau gwerthuso adroddiad hunanasesu blynyddol Dysgu Seiliedig ar Waith.
  • Cynnal asesiad o'r dysgwyr yn eich galwedigaeth arbenigol, ar y safle ac yn y coleg.
  • Sicrhau bod y themâu croestoriadol e.e. ADCDF, Cymwysterau Sgiliau Hanfodol, Prevent a'r Gymraeg yn cael eu hymgorffori yn y prosesau cyflwyno ac asesu.
  • Asesu dysgwyr yn erbyn y cymwysterau perthnasol yn ôl y safonau a osodwyd gan y meysydd cwricwlwm a'r Corff Dyfarnu priodol.
  • Defnyddio a chynnal systemau olrhain priodol gan ddefnyddio Maytas Hub.
  • Ar y cyd â staff darlithio, paratoi, cynllunio a chydosod deunyddiau dysgu ac asesu.
  • Cyflwyno gweithdai i ddysgwyr fel bo / pan fo hynny'n berthnasol.
  • Hwyluso gwybodaeth greiddiol berthnasol i lenwi bylchau yn sgiliau ymgeiswyr fel y bo'n briodol.
  • Cysylltu â staff Sicrhau Ansawdd Mewnol y gyfadran a darparu iddynt yr holl ofynion priodol sy'n ymwneud ag ansawdd o ran asesiadau yn unol â'r strategaeth IQA briodol.
  • Sicrhau bod lles a diogelu pob dysgwr yn cael eu monitro'n agos a chyfeirio os yn briodol
  • Gweithredu fel sianel rhwng cyflogwyr a'r coleg i sicrhau bod cysylltiadau busnes yn cael eu cyfeirio at yr Uned Datblygu Busnes
  • Cynrychioli'r coleg mewn digwyddiadau, rhwydweithiau a chyfarfodydd, pan fo angen.
  • Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl cyfarwyddyd y Pennaeth/Prif Weithredwr, yn gymesur â gradd y swydd, yn y gweithle cychwynnol neu leoliadau eraill yn y Coleg.

Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
  • NVQ Lefel 3 neu uwch yn y pwnc a'r maes galwedigaethol
  • TGAU Saesneg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
  • Gallu defnyddio'n gymwys ystod o Systemau a phecynnau TG, gan gynnwys Microsoft WORD, EXCEL, Pecynnau teilwredig a rhaglenni sy'n seiliedig ar gwmwl
  • Cyfathrebwr da â diplomyddiaeth a thact
  • Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol da
  • Y gallu i weithio'n gytûn gyda chydweithwyr
  • Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
  • Sgiliau cyflwyno da
Dymunol:
  • Dyfarniadau Aseswr (os nad yw'r ymgeisydd yn meddu ar y rhain, rhaid eu cyflawni o fewn 12 mis o ddyddiad dechrau'r swydd)
  • IOSH Rheoli'n Ddiogel
  • Cymorth Cyntaf yn y Gwaith
  • Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus sydd yn dangos ymgysylltiad â gweithgareddau i gynnal y wybodaeth a'r sgiliau diweddaraf am arferion y diwydiant, cynnyrch a chyfarpar.
  • Trwydded yrru gyfredol a'ch cludiant eich hun
Yr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Cymraeg Hanfodol Lefel 2
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Cymraeg Hanfodol Lefel 2
(Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwym)

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.


Buddion
  • Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein