MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Aberystwyth, SY23 3BP
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £25,372 - £49,934 / blwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 17 Medi, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £25,372 - £49,934 / blwyddyn
Darlithydd mewn Bagloriaeth Cymru UwchApplication Deadline: 17 September 2025
Department: Sgiliau
Employment Type: Parhaol - Rhan Amser
Location: Campws Aberystwyth
Reporting To: Pennaeth Dysgu Gydol Oes
Compensation: £25,372 - £49,934 / blwyddyn
DescriptionMae'r Bwrdd Corfforaethol wedi ymrwymo i benodi staff a fydd yn dangos menter a brwdfrydedd, ac a fydd yn ychwanegu ymhellach at enw da'r Coleg trwy ymrwymiad i weithio fel aelod o dîm a chynhyrchu gwaith o ansawdd uchel. Mae'r swydd yn darparu cyfle cyffrous a llawn her i unigolyn rhagweithiol a dyfeisgar.
Mae'r Maes Cwricwlwm Safon Uwch a Mynediad (ALA) yn cyflwyno rhaglenni llawn amser mewn Lefel Uwch Gyfrannol a Safon Uwch, Diplomâu mewn Mynediad a Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch. Ceir hefyd amrywiaeth o gyrsiau rhan-amser yn cwmpasu ystod eang o ddisgyblaethau a lefelau.
Ar Gampws Aberystwyth caiff y Fagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch (ABSW) ei chyflwyno i ystod o ddysgwyr galwedigaethol. Mae'r Fagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch (ABSW) yn rhan o'r Maes Cwricwlwm Safon Uwch a Mynediad ac mae'n eistedd o fewn y Gyfadran Safon Uwch a Dysgu Gydol Oes sy'n gweithredu o Gampws y Graig.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Cynllunio a chyflwyno'r rhaglen ABSW ar draws ystod o feysydd galwedigaethol
- Cwblhau'r gwaith o fonitro, cydymffurfio, asesu ac adrodd yn unol â safonau'r Coleg a safonau TGAU
- Gweithio ar y cyd â staff maes cwricwlwm i sicrhau bod yr holl ddysgwyr yn ymgysylltu'n llwyddiannus â'r Cymhwyster Bagloriaeth Cymru Uwch
- Adrodd wrth y Pennaeth Dysgu Gydol Oes ynghylch cynnydd a chwblhad.
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol
- Cymhwyster addysgu (Os nad ydych yn meddu ar gymhwyster addysgu ar ddyddiad dechrau'r swydd, bydd hi'n ofynnol i chi ennill TAR o fewn 2 flynedd i'r dyddiad hwn)
- TGAU Saesneg neu Lefel O - o leiaf Gradd C neu (CSE Gradd 1 cyfwerth)
- TGAU Mathemateg neu Lefel O - o leiaf Gradd C neu (CSE Gradd 1 cyfwerth)
- Tystiolaeth ddogfennol o Ddatblygiad Proffesiynol priodol
- Sgiliau llythrennedd a rhifedd da a'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar bob lefel ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Dealltwriaeth gadarn o lythrennedd digidol
- Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol ardderchog
- Y gallu i weithio'n gytûn gyda dysgwyr a chydweithwyr
- Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
- Prydlondeb ardderchog a'r gallu i weithio'n hyblyg
- Profiad addysgu perthnasol
- Dealltwriaeth dda o faterion perthnasol mewn addysg ôl 16
- Hanes profedig o lefelau uchel o gyrhaeddiad dysgwyr
- Ymwybyddiaeth o ddangosyddion perfformiad allweddol
- Tystiolaeth o weithgareddau addysgu a dysgu arloesol
- Tystiolaeth o olrhain a monitro perfformiad dysgwyr yn effeithiol
- Profiad o gymryd rhan weithredol yng ngofal bugeiliol pobl ifanc
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel -0/1
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Am ddisgrifiad swydd llawn, cliciwch ynghlwm.
Buddion
- Byddwch yn cael 46 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 59 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein