MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Pibwrlwyd, SA31 2NH
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £25,372 - £49,934 / blwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 12 Medi, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Darlithydd Sgiliau Hanfodol (Cymhwyso Rhif, Sgiliau Digidol Chyfathrebu L1-3)
Coleg Sir Gar
Cyflog: £25,372 - £49,934 / blwyddyn
Darlithydd Sgiliau Hanfodol (Cymhwyso Rhif, Sgiliau Digidol Chyfathrebu L1-3)Application Deadline: 12 September 2025
Department: Sgiliau
Employment Type: Parhaol - Llawn Amser
Location: Campws Pibwrlwyd
Reporting To: Pennaeth Dysgu Gydol Oes
Compensation: £25,372 - £49,934 / blwyddyn
DescriptionMae Bwrdd Cyfarwyddwyr Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi ymrwymo i benodi'r staff gorau posibl sy'n cyflawni rhagoriaeth yn eu gwaith. Gan weithio i'r gwerthoedd a'r ymddygiadau sy'n tanategu cynllun strategol a busnes y sefydliad, mae'r Coleg yn ceisio staff sy'n arddangos creadigrwydd ac arloesedd, tra'n gyrru eu perfformiad eu hunain, a pherfformiad eraill, i ddarparu'r profiad a'r gwasanaeth gorau posibl i ddysgwyr.
Mae'r penodiad hwn ar gyfer Darlithydd Sgiliau Hanfodol. Rydym yn chwilio am athrawes/athro brwdfrydig a phenderfynol i sicrhau bod dysgwyr yn dangos ymrwymiad i'r meysydd hyn ac yn barod iawn i gael eu hasesu, gan ddefnyddio tasgau gwahaniaethol a strategaethau arbenigol, fel y bo'n briodol, i ysgogi a chynnal diddordeb, ac i ddatblygu hyder a hunanbarch y dysgwyr.
Os ydych yn chwilio am her yn eich gyrfa, mae'r cyfle hwn yn addo bod yn werthfawr a boddhaus. Yn y rôl hon byddwch yn dysgu ac yn cefnogi ystod amrywiol o bobl ifanc ac oedolion, i'w galluogi i gyflawni cam nesaf eu gyrfa neu eu dyheadau addysgol.
Bydd arnoch angen sgiliau cyfathrebu neilltuol ynghyd â'r gallu i flaenoriaethu llwyth gwaith heriol.
Bydd y darlithydd Sgiliau Hanfodol llwyddiannus a benodir yn cefnogi dysgwyr sy'n dilyn ystod eang o gyrsiau Addysg Bellach yn y coleg, i sicrhau bod ganddynt y sgiliau priodol i lwyddo yn eu dysgu.
Byddai profiad o gyflwyno Cymwysterau Sgiliau Hanfodol yn ogystal â statws athro cymwysedig yn ffafriol.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Ymgymryd ag addysgu, asesu a dilysu cymwysterau Sgiliau Hanfodol yn fewnol. (Cymhwyso Rhif, Sgiliau Digidol a Chyfathrebu)
- Cysylltu â chydlynwyr Pennaeth Dysgu Gydol Oes y coleg i sicrhau yr ymgymerir â gweithdrefnau Dilysu Mewnol Sicrhau Ansawdd mewn modd priodol ac amserol
- Sicrhau bod yr holl Gymwysterau Sgiliau Hanfodol a gwblhawyd yn llwyddiannus yn cael eu hawlio mewn modd amserol.
- Adrodd wrth y Pennaeth Dysgu Gydol Oes ynghylch cynnydd a chwblhad.
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl cyfarwyddyd y Pennaeth/Prif Weithredwr, yn gymesur â gradd y swydd, yn y gweithle cychwynnol neu leoliadau eraill yn y Coleg.
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol
- Cymhwyster addysgu (Os nad ydych yn meddu ar gymhwyster addysgu ar ddyddiad dechrau'r swydd, bydd hi'n ofynnol i chi ennill TAR o fewn 2 flynedd i'r dyddiad hwn)
- TGAU Saesneg neu Lefel O - o leiaf Gradd C neu (CSE Gradd 1 cyfwerth)
- TGAU Mathemateg neu Lefel O - o leiaf Gradd C neu (CSE Gradd 1 cyfwerth)
- Tystiolaeth ddogfennol o Ddatblygiad Proffesiynol priodol
- Sgiliau llythrennedd a rhifedd da a'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar bob lefel ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Dealltwriaeth gadarn o lythrennedd digidol
- Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol ardderchog
- Y gallu i weithio'n gytûn gyda dysgwyr a chydweithwyr
- Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
- Prydlondeb ardderchog a'r gallu i weithio'n hyblyg
- Profiad addysgu perthnasol
- Dealltwriaeth dda o faterion perthnasol mewn addysg ôl 16
- Hanes profedig o lefelau uchel o gyrhaeddiad dysgwyr
- Ymwybyddiaeth o ddangosyddion perfformiad allweddol
- Tystiolaeth o weithgareddau addysgu a dysgu arloesol
- Tystiolaeth o olrhain a monitro perfformiad dysgwyr yn effeithiol
- Profiad o gymryd rhan weithredol yng ngofal bugeiliol pobl ifanc
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 3/4
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 3/4
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Am ddisgrifiad swydd llawn, cliciwch ynghlwm.
Buddion
- Byddwch yn cael 46 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 59 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein