MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Leadership Range of - L07 to L11 - £58,844 to £64,933
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 11 Medi, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Dirprwy Bennaeth Cynorthwyol - Ysgol Penrhyn Dewi

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: Leadership Range of - L07 to L11 - £58,844 to £64,933

YSGOL WIRFODDOL A GYNORTHWYIR PENRHYN DEWI

Pennaeth Cynorthwyol, Cwricwlwm, Asesu ac Addysgu a Dysgu

L7 - L11 (£58,844 - £64,933 y flwyddyn ar hyn o bryd)

Mae'r swydd hon yn llawn amser ac yn barhaol a bydd yn dechrau ym mis Ionawr 2026, neu'n gynt os yn bosibl.

Ysgol yr Eglwys yng Nghymru 3-16 oed yw Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir Penrhyn Dewi ac mae'n gwasanaethu dinas hanesyddol Tyddewi a'r cyffiniau. Wedi'i lleoli yn ardal brydferth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae'r ysgol yn cynnig amgylchedd gofalgar, cynhwysol a chroesawgar lle mae'r disgyblion a'r staff yn falch o'r ethos Cristnogol a chymunedol. Mae gan yr ysgol gysylltiadau cryf â'r gadeirlan a'r gymuned leol lle mae cyfleoedd helaeth ar gyfer gweithgareddau awyr agored ac anturus, chwaraeon ynghyd â gweithgareddau cymdeithasol a diwylliannol.

Mae'r ysgol am benodi ymarferydd arloesol sy'n angerddol am ddysgu ac addysgu, blaenoriaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol ynghyd â datblygiadau cwricwlwm yng Nghymru. Mae'r corff llywodraethol angen unigolyn ysbrydoledig i weithio'n strategol fel rhan o'r Uwch-dîm Gwella er mwyn parhau i yrru gwelliant yr ysgol ymlaen gan ddarparu'r profiadau addysgol gorau i deulu ein hysgol. Croesewir ceisiadau gan athrawon cynradd ac uwchradd sydd â phrofiad arweinyddiaeth, waeth beth fo'u harbenigedd pwnc.

Mae angen arweinydd arnom sydd:
  • yn ymarferydd ystafell ddosbarth rhagorol gyda hanes profedig o lwyddiant, sy'n ymrwymedig i ddarparu profiadau dysgu o ansawdd uchel i bob disgybl.
  • yn angerddol dros gynhwysiant, gan sicrhau bod pob plentyn yn cael y gefnogaeth a'r ddarpariaeth orau bosibl i wneud y mwyaf o'u potensial.
  • yn meddu ar weledigaeth ac ysgogiad i sicrhau bod gan bob un o'n disgyblion a'n staff ddyheadau uchel a'u bod âr gallu i lwyddo
  • yn modelu ac yn meddu ar y sgiliau a'r profiad i reoli ac ysbrydoli staff wrth hyrwyddo cynhwysiant o fewn Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir Penrhyn Dewi.
  • yn cydymdeimlo ag ethos a gwerthoedd Cristnogol Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru.
Dylid cyflwyno ceisiadau i Dîm AD Cyngor Sir Penfro erbyn y dyddiad cau 11/09/2025.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Fideo Addysgu Sir Benfro: Fideo - Cyngor Sir Penfro

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.

Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.

Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol

  • Cysylltwch âr Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch âm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud âr swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
  • Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.