MANYLION
  • Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £47,754
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 09 Medi, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Arweinydd Diogelu - Addysg

Rhondda Cynon Taf

Cyflog: £47,754

Arweinydd Diogelu - Addysg

Disgrifiad Swydd
Mae'r rôl newydd yma wedi'i sefydlu yn y Gyfadran Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant, sy'n darparu gwasanaethau cymorth o ansawdd uchel i 111 o ysgolion ledled Rhondda Cynon Taf. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gydlynu materion diogelu yn y gyfarwyddiaeth ac arwain camau gwella diogelu ar gyfer y sector Addysg.

Mae ymrwymiad cryf yn Rhondda Cynon Taf i gefnogi ysgolion i ddatblygu arferion diogelu hynod effeithiol a bydd y rôl yma'n gweithio ar y cyd â gwasanaethau eraill ar draws grwpiau diogelu rhanbarthol a chorfforaethol i wella'r maes hanfodol yma.

Gan ganolbwyntio ar arweinyddiaeth, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn sicrhau bod staff canolog y gwasanaeth Addysg, a staff yn ein hysgolion, mewn sefyllfa dda i ymateb yn effeithiol i faterion diogelu cyfredol a rhai sy'n dod i'r amlwg. Yn ogystal â hyrwyddo diwylliant o ddiogelu, bydd yr unigolyn yn cysylltu â chydweithwyr y Gwasanaethau i Blant i sicrhau bod gan y gyfarwyddiaeth olwg glir ar bob mater ac yn cefnogi ymateb cadarn i unrhyw bryderon. Bydd yr unigolyn yn sicrhau cydymffurfiaeth â safonau cyfreithiol a sefydliadol, gan gysylltu â phartneriaid eraill i ddarparu cyfraniad y gyfarwyddiaeth at Ddiogelu Corfforaethol a Rhanbarthol.

Bydd prif swyddogaethau'r swydd yn cynnwys bod yn rheolwr llinell dros Gydlynydd Addysg Hwb Diogelu Amlasiantaeth (MASH) a Gwerthuswyr Addysg sy'n cefnogi gwaith ein Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth.

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch Daniel Williams, Pennaeth Mynychu'r Ysgol a Lles: Daniel.Williams@rctcbc.gov.uk

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad ydy unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses recriwtio a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddynt hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, bydd gwahoddiad i gyfweliad i chi os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i'r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o'r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn, sy'n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.