MANYLION
  • Lleoliad: Pencoed,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa Gyflog 4 (pwyntiau 21 - 24) £25,773 - £28,599 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 09 Medi, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Cyswllt Cyflogwyr Dysgu Seiliedig ar Waith

Coleg Penybont

Cyflog: Graddfa Gyflog 4 (pwyntiau 21 - 24) £25,773 - £28,599 y flwyddyn

Swyddog Cyswllt Cyflogwyr Dysgu Seiliedig ar Waith
Graddfa Gyflog 4 (pwyntiau 21 - 24) £25,773 - £28,599 y flwyddyn
Llawn Amser a Chyfnod Penodol (12 mis)

Byddwch yn cynnal ymweliadau adolygu prentisiaid ar ran adran Dysgu Seiliedig ar Waith Coleg Penybont a darparwyr hyfforddiant cysylltiedig eraill. Byddwch yn monitro ac yn adolygu cynnydd prentisiaid mewn modd amserol ac yn unol â gweithdrefnau Coleg Penybont. Byddwch yn rhoi adborth ac arweiniad i brentisiaid, i gefnogi eu dysgu a gwella eu gwybodaeth am ddilyniant.

Rhaid bod gennych o leiaf TGAU Gradd C neu uwch mewn Saesneg a Mathemateg, NVQ Lefel 3 neu gyfwerth a gwybodaeth a dealltwriaeth o weithio mewn amgylchedd academaidd, diwydiannol a masnachol. Gyda sgiliau cyfathrebu rhagorol, byddwch yn monitro ac yn adrodd ar weithgareddau'r prentisiaid ar draws ystod o ysgolion academaidd a darparwyr DSW.

I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd.

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r swydd uchod yn amodol ar Wiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a byddwn yn eu hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.

Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.

Sylwch, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.