MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Pil Primary,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £23,333 - £24,518 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Uwch-swyddog Gweinyddol - Ysgol Gynradd y Pîl
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: £23,333 - £24,518 y flwyddyn
Uwch-swyddog Gweinyddol - Ysgol Gynradd y PîlDisgrifiad swydd
32.5 Awr yr wythnos
Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd y Pîl yn awyddus i benodi Uwch-swyddog Gweinyddol brwdfrydig ac effeithiol iawn i weithio yn ein swyddfa brysur.
Prif gyfrifoldeb y swydd yw bod yn brif Dderbynnydd ond mae amrywiaeth o ddyletswyddau clercol ynghlwm wrth y swydd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol a chlercol a fydd yn cynnwys cymryd cofnodion, teipio adroddiadau cyfrinachol amrywiol, rheoli goruchwylwyr amser cinio, prosesau gweinyddol, ariannol a sefydliadol.
Rhaid i ymgeiswyr:
feddu ar sgiliau rhyngbersonol cryf
rhaid eich bod yn rhifog ac yn drefnus
meddu ar sgiliau teipio a chyfathrebu gwych ac yn gallu gweithio'n dda mewn tîm gyda dull hyblyg tuag at weithio
rhaid iddynt allu rheoli systemau a ffurflenni ariannol cymhleth â llaw a chyfrifiadurol
rhaid iddynt allu dadansoddi a gwerthuso data a llunio adroddiadau a dogfennau
mae gwybodaeth ymarferol fanwl am becyn Microsoft Office (Word, Excel ac Outlook), y pecyn SIMS, iTrent a meddalwedd ariannol COA yn ddymunol
gallu gweithio o fewn terfynau amser tynn a datrys problemau a allai godi
goruchwylio'r gwaith o gwblhau ffurflenni a gwybodaeth statudol
cysylltu â Swyddogion Lles Addysg ac eraill i fonitro presenoldeb disgyblion
bod yn gyfrifol am gyflenwadau gwerth uchel a symiau o arian parod
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion sydd mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd i bob gweithiwr cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda rhestr Gwaharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 19 Medi 2025
Dyddiad Llunio Rhestr Fer: 26 Medi 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person