MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Carmarthenshire,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £32,433 - £49,944 (MPR2 - UPR3)
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro Cymwys Arbenigol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc â Nam ar y Golwg 0-19 oed
Cyngor Sir Caerfyrddin
Cyflog: £32,433 - £49,944 (MPR2 - UPR3)
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
Ynglŷn â'r swydd wag
Cyfeirnod y Swydd Wag: 2162
Sefydliad:
Cyngor Sir Caerfyrddin
Nifer y swyddi gwag:
1
Math o gontract:
Parhaol Rhan-amser
Lleoliad:
Sir Gaerfyrddin
Gradd:
Athrawon Ysgol
Cyflog:
£32,433 - £49,944 (MPR2 - UPR3)
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£24.72 - £30.04
Oriau Contract:
6 awr 30 munud
Dewch i ymuno â'n tîm
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn awdurdod lleol uchel ei berfformiad, bywiog a blaengar sy'n ceisio gwella'n barhaus ac mae wedi ymrwymo i gynnal ei enw rhagorol am gyflwyno gwasanaethau o'r radd flaenaf. Rydym am benodi Athro Cymwys peripatetig ar gyfer Plant a Phobl Ifanc â Nam ar y Golwg, 0.2 Cyfwerth ag Amser Llawn, i weithio o fewn y tîm peripatetig sy'n cefnogi plant a phobl ifanc cyn-ysgol ac oedran ysgol sydd â nam ar y golwg i'n helpu i gyflawni ein huchelgais.
Mae'r rôl beripatetig hon yn cynnig cyfle gwych i ymuno â Chyngor sydd am fod yn arloesol o ran y ffordd mae'n darparu gwasanaethau. Rydym yn chwilio am Athro Cymwys Plant a Phobl Ifanc â Nam ar y Golwg modern, ysbrydoledig a chynhwysol sydd â'r profiad perthnasol ynghyd â brwdfrydedd, egni, angerdd ac ymrwymiad. Byddwch yn meddu ar y cymhwyster gorfodol canlynol - Athro Cymwys Plant a Phobl Ifanc â Nam ar y Golwg - yn ogystal â chymhwyster addysgu perthnasol. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â thîm bach o athrawon a gweithwyr proffesiynol arbenigol ymroddedig sy'n cefnogi anghenion plant a phobl ifanc sydd â nam ar y golwg a byddwch yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn y Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol ehangach i hyrwyddo cyflawniad a lles.
Bydd angen i chi allu teithio o fewn ardal yr Awdurdod Lleol.
I gael trafodaeth anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Catherine Williams (Rheolwr y Gwasanaeth Nam ar y Synhwyrau), yng Nghyngor Sir Caerfyrddin drwy anfon neges e-bost i CWilliams@sirgar.gov.uk i drefnu apwyntiad i drafod ar Teams neu dros y ffôn.
Disgrifiad Swydd:
010987.pdf - 243KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad:
9 Hydref 2025
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 3 - Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 25/09/2025, 23:55
Y Buddion
Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.