MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £37,925 - £41,374
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Mentor Cyflogadwyedd CC/2951

Coleg Cambria

Cyflog: £37,925 - £41,374

Disgrifiad Swydd a Manyleb Yr Unigolyn

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Mentor Cyflogadwyedd

Lleoliad : Ial

Math o Gontract : Parhaol: Llawn amser

Graddfa Gyflog : £37,925 - £41,374

Mae gennym ni gyfle cyffrous i Fentor Cyflogadwyedd ymuno â'r Tîm Twf Swyddi Cymru+ yng Ngholeg Cambria.

Bydd yn ofynnol i'r Mentor Cyflogadwyedd weinyddu Rhaglen Twf Swyddi Cymru+ yn unol â manyleb y rhaglen a ragnodir. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda phartneriaid i recriwtio dysgwyr i raglen Twf Swyddi Cymru+ ar draws gwahanol safleoedd y coleg (neu leoliadau eraill fel y nodwyd). Byddan nhw'n gweithio gyda chydweithwyr i sefydlu lleoliadau ar gyfer hyfforddeion ac yn sicrhau bod rhaglenni hyfforddi effeithiol yn cael eu cyflwyno, a'u monitro i alluogi ymgeiswyr i gyflawni canlyniadau boddhaol.

Bydd y mentor cyflogadwyedd yn cefnogi dysgwyr drwy fentora, hyfforddi, cyflwyno, cymorth bugeiliol, arddangos a chyfarwyddyd. Byddan nhw'n darparu dysgwyr gyda'r sgiliau cyflogadwyedd sylfaenol sydd eu hangen i sicrhau cyfleoedd lleoliad neu symud ymlaen i addysg amser llawn.

Gofynion Hanfodol
  • Wedi cael addysg hyd at Lefel 4 o leiaf
  • Cymhwyster Lefel 3 TAQA
  • Profiad blaenorol o weithio gyda grŵp cleientiaid NEET
  • Profiad blaenorol o gefnogi dysgwyr mewn amgylchedd yn y gwaith
  • Profiad blaenorol o reoli'r ystafell ddosbarth yn effeithiol
  • Profiad blaenorol o asesu cymwysterau
  • Profiad blaenorol o weithio gyda rhanddeiliaid allweddol priodol
  • Profiad perthnasol o gymorth bugeiliol
  • Rheoli amser ac adnoddau yn effeithiol ac yn llwyddiannus er mwyn cyrraedd targedau heriol
  • Hyrwyddo a gweithredu arferion iach a diogel

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig