MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Bryncethin Primary School,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £3,299 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 03 Medi, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwyydd Goruchwylio - Ysgol Gynradd Bryncethin
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: £3,299 y flwyddyn
Cynorthwyydd Goruchwylio - Ysgol Gynradd BryncethinDisgrifiad swydd
5 awr yr wythnos
Mae Ysgol Gynradd Bryncethin yn ceisio penodi Cynorthwyydd Goruchwylio i weithio yn ystod amser cinio, rhwng canol dydd ac 1pm bob dydd, yn ystod tymor yr ysgol yn unig.
Gan weithio fel rhan o dîm, bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus oruchwylio'r plant ym mhob un o ardaloedd yr ysgol, yn ogystal â goruchwylio disgyblion mewn gemau ar y maes chwarae a'u cynnwys ynddynt.
Byddai profiad o weithio gyda phlant, a'r gallu i annog ymddygiad da a chwarae ymhlith disgyblion yn fantais, ond nid yw'n hanfodol oherwydd darperir hyfforddiant.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion sydd mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd i holl weithwyr y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda rhestr Gwahardd Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 03 Medi 2025
Dyddiad y Rhestr Fer: Wythnos yn dechrau 08 Medi 2025
Dyddiad y Cyfweliad: Wythnos yn dechrau 22 Medi 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person