MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £32,304 - £49,933
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Arweinydd Datblygu Sgiliau

Coleg Gwent

Cyflog: £32,304 - £49,933

Arweinydd Datblygu Sgiliau
Swydd ddisgrifiad
37 awr yr wythnos

Cyfnod Penodol - 31/07/26

A ydych chi'n angerddol am godi safonau mewn llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol?

Mae Coleg Gwent yn chwilio am ymarferydd brwdfrydig, deinamig a phrofiadol i ymuno â'n Tîm Saesneg, Mathemateg a Sgiliau fel Arweinydd Datblygu Sgiliau. Bydd y rôl ganolog hon yn canolbwyntio ar ymgorffori llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol ar draws pob maes cwricwlwm, gan weithio ar y cyd â thimau addysgu a dylanwadu ar arfer addysgeg i sicrhau bod dysgwyr yn datblygu'r sgiliau craidd sydd eu hangen arnynt i lwyddo.

Cyfrifoldebau Allweddol

  • Cefnogi athrawon i ymgorffori llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol yn eu haddysgu a'u dysgu
  • Arwain ar weithredu ein hofferyn asesu cychwynnol a diagnostig newydd
  • Cefnogi sicrhau ansawdd mewnol trwy adolygiadau wedi'u targedu, arsylwadau a fforymau dysgwyr sy'n canolbwyntio ar ddatblygu llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol.
  • Gwerthuso cynlluniau dysgu i sicrhau integreiddio llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol yn effeithiol ar draws rhaglenni galwedigaethol ac academaidd.
  • Arwain mentrau dysgu proffesiynol a rhannu arfer gorau i wella addysgu, dysgu ac asesu.
  • Defnyddio data yn effeithiol i gefnogi gwelliant parhaus ac olrhain effaith strategaethau datblygu sgiliau ar ganlyniadau dysgwyr.
  • Meithrin perthnasoedd cryf ar draws adrannau a chyda rhanddeiliaid allanol i hyrwyddo diwylliant o ragoriaeth mewn addysg sy'n seiliedig ar sgiliau.


Yr Hyn Rydym yn Chwilio Amdano

Rydym yn chwilio am rywun sydd â:

  • Hanes cryf o addysgu rhagorol, gyda chanlyniadau'n rhagori ar feincnodau cenedlaethol.


  • Dealltwriaeth ddofn o fframwaith Estyn, a sut i ymgorffori llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol trwy addysgu sy'n rhoi ansawdd yn gyntaf.


  • Yr hyder i ymgysylltu, ysgogi a herio staff i fabwysiadu strategaethau arloesol ac effeithiol.


  • Sgiliau rhyngbersonol, dadansoddol a chyfathrebu rhagorol, gan gynnwys y gallu i gyflwyno i gynulleidfaoedd mawr.


  • Meddylfryd rhagweithiol gyda'r gallu i ddatrys problemau, dylanwadu ar newid a hyrwyddo gwelliant parhaus.


Gofynion Hanfodol

  • Gradd anrhydedd dda mewn pwnc perthnasol sy'n seiliedig ar sgiliau.


  • Cymhwyster addysgu cydnabyddedig (TAR, Tystysgrif Addysg neu gyfwerth).


  • Profiad profedig o hyfforddi, mentora, neu gyflwyno datblygiad proffesiynol effaith uchel.


  • Gallu profedig i arwain a chefnogi newid ar raddfa fawr ar draws lleoliad aml-gampws.


Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg ar lefel sylfaenol (neu barodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant) yn ddymunol.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'r Coleg wedi ymrwymo i ddiogelu, gan sicrhau diogelwch a lles plant a phobl ifanc. Mae cyflogaeth yn amodol ar Ddatgeliad Manwl boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA) os yn briodol.

Sylwch y bydd disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus dalu am y Datgeliad Manylach a chofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Bydd swyddi darlithio yn gofyn am gymhwyster addysgu (e.e. TAR) neu barodrwydd i ennill un gyda chyfnod penodol o amser. Bydd hyn yn ofynnol o dan eich contract cyflogaeth a chofrestriad CGA.

Yn Coleg Gwent, rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd gwaith sy'n croesawu amrywiaeth ac sy'n hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn sail i hyn a byddwn yn glynu wrthi ar bob cam o'r broses recriwtio.

Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn wedi'u hymgorffori yn ein hymarferion gwaith o ddydd i ddydd gyda'n dysgwyr, ein cydweithwyr a'n partneriaid.

Rydym yn gwybod mai'r timau mwyaf llwyddiannus yw'r timau mwyaf amrywiol. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn sail i'n diwylliant yn Coleg Gwent. Rydym yn dymuno i bob unigolyn deimlo'n hyderus, teimlo'n falch a theimlo ei fod yn gallu bod ei wir hunan yn y gwaith.Rydym yn croesawu ceisiadau gan y rhai sy'n meddwl yn wahanol ac rydym yn hyblyg i ddarparu ar gyfer talent niwroamrywiol.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliaeth a chynyddu amrywiaeth yn y Coleg trwy chwalu rhwystrau a chefnogi pob aelod o staff i gyrraedd ei botensial. I sicrhau cynrychiolaeth well yn ein gweithlu, croesawn geisiadau, yn benodol, gan grwpiau lleiafrifol gan gynnwys pobl dduon, pobl Asiaidd, a phobl o leiafrifoedd ethnig, menywod, pobl LGBTQ+, pobl anneuaidd a phobl gydag anableddau. Gyda'n gilydd, rydym yn parhau i greu gweithle sydd, nid yn unig, yn dathlu lleisiau amrywiol ein cydweithwyr, ond sydd, hefyd, yn cynrychioli'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n siarad ieithoedd eraill a phawb, beth bynnag eu hoedran, statws priodasol neu bartneriaeth sifil (un rhyw neu ddau ryw), nam neu gyflwr meddygol, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, yn unol â'n Polisi Cyfleoedd Cyfartal. Mae pob campws yn hygyrch ac mae cyfleusterau megis ystafelloedd gweddïo ar gael.

Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd ac rydym wedi ymlynu wrth y Gr"{p Arweinyddiaeth Pobl Dduon. Mae 6 Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd (Enabled, Men's Alliance, Women Together, Cynefin, LGBTQ+ a Race Alliance) yn allweddol o ran cefnogi'r gwaith hwn a darparu cymorth i gymheiriaid.

Beth sy'n dod â ni ynghyd?

Rydym wedi ymrwymo i greu diwylliant o gynhwysiant sy'n grymuso ein pobl i ffynnu ac sy'n meithrin ymdeimlad o berthyn.

I gefnogi'r Coleg i fod yn gymuned sy'n llawn parch, mae gennym gr"{p llywio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Gwrandewch ar ein Hyrwyddwyr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn siarad am y rhesymau eu bod mor angerddol am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant - Dolen yn y ddogfen ynghlwm.

Mae eich lles o bwys

Mae eich lles yn bwysig i ni. Rydym yn dymuno sicrhau y gallwch chi wneud y mwyaf o'r cyfleoedd a chyrraedd eich potensial llawn. Mae rhaglen o weithgareddau lles drwy gydol y flwyddyn ac mae'r ap Headspace ar gyfer yr holl staff yn sail i hynny. Mae'n cynnwys detholiad amrywiol o fyfyrdodau ar gyfer anghenion dechreuwyr a'r rhai mwy profiadol. Hefyd, mae gennym ni Bartneriaid sy'n hyrwyddwyr iechyd meddwl hyfforddedig a mynediad cymorthdaledig at gampfa. Rydym yn benderfynol o greu amgylchedd sy'n cefnogi iechyd meddwl ac iechyd corfforol pawb.

Dyddiad Cau: 24/08/25

Dyddiad Cyfweliad: 05/09/25