MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Carmarthen, SA32 8NJ
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £25,372 - £49,934 / blwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 13 Awst, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £25,372 - £49,934 / blwyddyn
Darlithydd mewn AmaethyddiaethApplication Deadline: 13 August 2025
Department: Amaethyddiaeth
Employment Type: Llawn Amser
Location: Campws Y Gelli Aur
Compensation: £25,372 - £49,934 / blwyddyn
DescriptionMae Bwrdd Cyfarwyddwyr Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi ymrwymo i benodi'r staff gorau posibl sy'n cyflawni rhagoriaeth yn eu gwaith. Gan weithio i'r gwerthoedd a'r ymddygiadau sy'n tanategu cynllun strategol a busnes y sefydliad, mae'r Coleg yn ceisio staff sy'n arddangos creadigrwydd ac arloesedd, tra'n gyrru eu perfformiad eu hunain, a pherfformiad eraill, i ddarparu'r profiad a'r gwasanaeth gorau posibl i ddysgwyr.
Mae'r maes Cwricwlwm Amaethyddiaeth yn ffurfio rhan o'r gyfadran Adeiladu ac Amaethyddiaeth. Lleolir y ddarpariaeth ar Gampws y Gelli Aur ac mae'n cynnwys cyrsiau Amaethyddiaeth, Peirianneg Ar Dir, Garddwriaeth, Coedwigaeth a Rheolaeth Cefn Gwlad a gyflwynir i ddysgwyr Addysg Uwch, Addysg Bellach, Dysgu Seiliedig Ar Waith a dysgwyr Ysgol 14-16. Mae gan dîm y Maes Cwricwlwm dros 15 o staff addysgu, asesu a staff cymorth llawn amser a rhan-amser. Hefyd mae'n cynnig gweithgareddau masnachol, cymunedol a phrosiect sylweddol ac mae ganddo hanes clodwiw o ddatblygu sgiliau. Mae gan y Maes Cwricwlwm gysylltiadau helaeth â diwydiant a grwpiau budd-ddeiliaid cysylltiedig.
Y Coleg yw'r prif ddarparwr ar gyfer darpariaeth Amaethyddol ar lefel tri yng Nghymru, ac mae ganddo Gampws pwrpasol yn y Gelli Aur sy'n cynnwys labordy gwyddoniaeth, ystafelloedd seminar, switiau TGCh a gweithdai peirianneg. Ein nod yw sicrhau bod myfyrwyr yn mwynhau profiad dysgu gwerthfawr ac ysgogol sy'n eu paratoi ar gyfer cyflogaeth am oes yn y sector ar dir.
Mae'r swydd yn darparu cyfle i berson rhagweithiol gyflwyno addysgu a dysgu o ansawdd uchel ar raglenni Ar Dir ar Gampws y Gelli Aur.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Ymgymryd â'r gwaith o addysgu, asesu a chydlynu rhaglenni astudio sy'n arwain at gymwysterau mewn ystod eang o gyrsiau Amaeth o Lefel 1 i Radd Anrhydedd. Bydd angen i chi allu cyflwyno mewn ystafell ddosbarth ac arddangos systemau gweithio diogel wrth gyflwyno sesiynau ymarferol.
- cyfrannu at reoli'r maes pwnc hwn;
- darparu cymorth, fel aelod o'r tîm, o ran gweinyddu a datblygu adnoddau o fewn yr Adran yn y Gelli Aur a chynorthwyo gyda datblygu deunyddiau addysgu a dysgu;
- cynorthwyo gyda'r gwaith o ddarparu astudiaethau Amaeth trwy gysylltu â'r diwydiant a datblygu cyrsiau masnachol;
- cyfrannu at ansawdd y ddarpariaeth trwy'r system dilysu mewnol;
- paratoi deunyddiau addysgu a dysgu perthnasol ar gyfer pynciau penodedig;
- paratoi deunyddiau adnodd a chyfleusterau i ategu'r gwaith addysgu penodedig;
- cyfrannu at ofynion swyddogaethol tîm y cwrs;
- ymgymryd â'r holl weithgarwch asesu ar gyfer pynciau penodedig;
- sicrhau bod yr holl ystafelloedd dosbarth a chyfleusterau hyfforddiant ymarferol yn cydymffurfio ag iechyd a diogelwch a gofynion deddfwriaethol eraill;
- cysylltu â budd-ddeiliaid trydydd parti fel y'i nodwyd gan reolwyr y gyfadran, gan gynnwys cynghorau sgiliau sector, sefydliadau AU, cyrff diwydiannol, cyflogwyr ac ati;
- ymgymryd â rôl y tiwtor personol ar gyfer grŵp o ddysgwyr;
- cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl cyfarwyddyd y Pennaeth/Prif Weithredwr, yn gymesur â gradd y swydd, yn y gweithle cychwynnol neu leoliadau eraill yn y Coleg.
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
- Gradd berthnasol neu gymhwyster addysg uwch/lefel uwch cyfwerth
- Cymhwyster addysgu (Os nad ydych yn meddu ar gymhwyster addysgu ar ddyddiad dechrau'r swydd, bydd hi'n ofynnol i chi ennill TAR o fewn 2 flynedd i'r dyddiad hwn)
- Cymhwyster cysylltiedig ag amaethyddiaeth Lefel 3 neu gyfwerth
- Profiad addysgu perthnasol
- Profiad Diwydiant Amaethyddol Perthnasol
- Sgiliau llythrennedd a rhifedd da a'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar bob lefel ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Dealltwriaeth gadarn o lythrennedd digidol
- Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol ardderchog
- Y gallu i weithio'n gytûn gyda dysgwyr a chydweithwyr
- Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
- Prydlondeb ardderchog a'r gallu i weithio'n hyblyg
- Dealltwriaeth dda o faterion perthnasol mewn addysg ôl 16
- Hanes profedig o lefelau uchel o gyrhaeddiad dysgwyr
- Ymwybyddiaeth o ddangosyddion perfformiad allweddol
- Tystiolaeth o weithgareddau addysgu a dysgu arloesol
- Tystiolaeth o olrhain a monitro perfformiad dysgwyr yn effeithiol
- Profiad o gymryd rhan weithredol yng ngofal bugeiliol pobl ifanc
- Trwydded yrru gyfredol
- Parodrwydd i yrru bws mini'r coleg
- Parodrwydd i gyfrannu at ddatblygu gweithgareddau allgyrsiol
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 3/4
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 3/4
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Am ddisgrifiad swydd llawn, cliciwch ynghlwm.
Buddion
- Byddwch yn cael 46 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 59 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 28.68% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein