MANYLION
  • Lleoliad: Bangor,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £20,026-£20,465 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Gweinyddol Arholiadau

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £20,026-£20,465 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Pwrpas y swydd - Mae'r Cynorthwyydd Cefnogi Arholiadau'n gyfrifol am weinyddu arholiadau allanol a mewnol yn unol â'r rheoliadau a bennwyd gan y Cydgyngor Cymwysterau, y Cyrff Dyfarnu a'r Sefydliadau Partner, ac yng ngweithdrefnau rhwydwaith Grŵp Llandrillo Menai ar gyfer cynnal arholiadau.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau - Prosesu cofrestriadau arholiad gyda'r Cyrff yn Dyfarnu a chynnal arholiadau yn unol â rheoliadau JCQ a gweithdrefnau arholiadau mewnol Trefnu'r gwaith papur sy'n gysylltiedig ag arholiadau, cyfleusterau profi ar-lein a lledaenu gwybodaeth, ateb ymholiadau ac ymdrin â materion yn ymwneud â chynnal arholiadau ac asesiadau gyda staff, myfyrwyr, rhieni/gofalwyr a Chyrff Dyfarnu. Sicrhau bod data cyrhaeddiad yn cael ei gasglu a'i goladu trwy ddulliau electronig a'i brosesu erbyn y dyddiadau y cytunwyd arnynt.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
AS/221/25

Cyflog
£20,026-£20,465 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Bangor

Hawl gwyliau
  • 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
  • Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
  • Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
  • Bydd gan y rhai ar gontractau Rhan-amser hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod.

Patrwm gweithio
30 awr yr wythnos (4 diwrnod yr wythnos)

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb
Rhan Amser Parhaol

Dyddiad cau
25 Awst 2025
12:00 YH (Ganol dydd)