MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Pen-y-bont ar Ogwr,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: gweithio hyblyg
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa Gyflog 1: £24,425 pro rata y flwyddyn - £12.66 yr awr
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 06 Awst, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa Gyflog 1: £24,425 pro rata y flwyddyn - £12.66 yr awr
Cynorthwyydd Cymorth DysguGraddfa Gyflog 1: £24,425 pro rata y flwyddyn - £12.66 yr awr
24 awr yr wythnos
Yn ystod y tymor yn unig am 36.6 wythnos
Cyfnod penodol hyd at 31ain Awst 2026
Cyflog yn ystod y Tymor yn Unig (yn seiliedig ar 36.6 wythnos lawn o waith) - £12,784 y flwyddyn. Sylwch, bydd y cyflog gwirioneddol yn seiliedig ar nifer yr wythnosau a weithiwyd am weddill y flwyddyn academaidd.
Rydym yn chwilio am Gynorthwywyr Cymorth Dysgu i ymuno a'n tîm ADY brwdfrydig.
Byddwch yn darparu cymorth dysgu wedi'i bersonoli a gofal personol (yn dibynnu ar anghenion yr unigolyn) i fyfyrwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) er mwyn cael gwared ar rwystrau i ddysgu ar draws pob un o gampysau Coleg Penybont. Byddwch yn cefnogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau, hyder a dealltwriaeth er mwyn gwneud cynnydd yn eu dysgu, wrth gymryd camau tuag at annibyniaeth.
Gall hyn cynnwys darparu cymorth ymarferol, gofal personol, cymryd nodiadau, darllen, annog / ysgrifennu a / neu roi cefnogaeth i gymryd nodiadau. Gydag isafswm TGAU gradd C mewn Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg a chymhwyster Lefel 2 perthnasol, bydd gennych brofiad o weithio gyda phobl gydag anghenion dysgu ychwanegol/anableddau corfforol a all fod angen cefnogaeth a chymorth i gyflawni eu potensial llawn.
Bydd gennych sgiliau TG, cyfathrebu a chymryd nodiadau da a bod yn barod i weithio'n hyblyg. Mae cofrestru fel Gweithiwr Cymorth Dysgu Addysg Bellach gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg (CGA) yn ofyniad ar gyfer y rolau hyn ac mae angen iddo fod yn ei le cyn y gall yr ymgeiswyr llwyddiannus ddechrau.
Dyddiad cyfweliad: 14/08/2025
I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd .
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar Wiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Gweithiwr Cymorth Dysgu Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.
Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.
Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.