MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Glynllifon,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: gweithio hyblyg
- Math o gyflog: Fesul awr
- Cyflog: £19.95 - £21.29 yr awr, sy'n cynnwys hawl gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £19.95 - £21.29 yr awr, sy'n cynnwys hawl gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Mae'r adran Amaethyddiaeth wedi'i lleoli yng Ngholeg Glynllifon. Mae myfyrwyr yn astudio cyrsiau lefel 2 a 3 llawn amser gyda'r posibilrwydd o gwblhau prentisiaeth gyda chyflogwr addas. Mae yna hefyd nifer o gyrsiau ysgol 14-16 a gyflwynir ar gyfer ysgolion uwchradd lleol. Mae myfyrwyr yn symud i fyd gwaith trwy weithio i gyflogwyr sy'n cynnig gwasanaethau Amaethyddol e.e. cyflenwi nwyddau neu wasanaethau i'r diwydiant amaethyddol neu trwy weithio ar ffermydd yn delio â da byw a chyflawni tasgau sy'n seiliedig ar beiriannau.Gyda chanllawiau, bydd y Goruchwyliwr Sgiliau Ymarferol yn gweithio i ddatblygu dealltwriaeth a sgiliau myfyrwyr trwy weithgareddau ymarferol wedi'u cynllunio. Mae'r tasgau hyn yn dilyn cynllun gwaith sy'n datblygu yn ystod y tymor i sefydlu cymhwysedd myfyrwyr fel eu bod yn cyrraedd gofynion y cwrs.
Dyma enghraifft o'r gweithgareddau a gyflawnir gan fyfyrwyr:
- Gweithio gydag amrywiol dda byw fel y'u rhestrir - dosio, pwyso, didoli ŵyn, lloia.
- Llaeth
- Defaid
- Moch
- Cig Eidion
- Gyrru peiriannau fferm (tractor/Telehandler/ATV)
Gofynnir i'r Goruchwyliwr Sgiliau Ymarferol gyfrannu at ystod o'r gweithgareddau hyn yn dibynnu ar arbenigedd a phrofiad. Cynhelir asesiadau ffurfiol gan y goruchwyliwr sgiliau ymarferol yn ystod tymor 2 a 3 y flwyddyn academaidd.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
BD/211/25
Cyflog
£19.95 - £21.29 yr awr, sy'n cynnwys hawl gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Glynllifon
Hawl gwyliau
Bydd hawl i wyliau â thâl pro rata ym mhob blwyddyn academaidd (1 Medi i 31 Awst), sy'n cynnwys hawl pro-rata i 8 Gŵyl Banc a Gwyliau Cyhoeddus a welir fel arfer yng Nghymru a hawl pro-rata o hyd at 5 o wyliau effeithlonrwydd (sylwer y gall hyn newid yn flynyddol). Mae gwyliau blynyddol yn deillio o hawl pro rata cyfwerth ag amser llawn o 46 diwrnod sydd wedi'i gynnwys yn y gyfradd fesul awr a delir.
Patrwm gweithio
245 awr yr wythnos (7.5 awr yr wythnos)
Patrwm gwaith i'w gytuno yn ddibynnol ar argaeledd.
Bydd canran ychwanegol o 10% yn cael ei gymhwyso i'r oriau cytundebol a weithiwyd i adlewyrchu paratoi a marcio.
34 wythnos y flwyddyn (yn ystod tymor y Coleg)
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr
Dyddiad cau
18 Awst 2025
12:00 YH (Ganol dydd)