MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Pibwrlwyd, SA31 2NH
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £25,370 - £49,934 / blwyddyn
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Darlithydd mewn Busnes - Arweinyddiaeth a Rheolaeth ILM Lefel 2-7
Coleg Sir Gar
Cyflog: £25,370 - £49,934 / blwyddyn
Darlithydd mewn Busnes - Arweinyddiaeth a Rheolaeth ILM Lefel 2-7Department: Busnes
Employment Type: Rhan Amser
Location: Campws Pibwrlwyd
Compensation: £25,370 - £49,934 / blwyddyn
DescriptionMae Bwrdd Cyfarwyddwyr Coleg Sir Gâr|Coleg Ceredigion wedi ymrwymo i benodi staff sy'n dangos menter, brwdfrydedd a rhagoriaeth yn eu gwaith. Gan weithio i'r gwerthoedd a'r ymddygiadau sy'n tanategu cynllun strategol y sefydliad, mae'r Coleg yn ceisio staff sy'n arddangos creadigrwydd ac arloesedd, tra'n gyrru eu perfformiad a pherfformiad eraill. Yn benodol, staff a all ddatblygu ein cenhadaeth ymhellach, sef: Ysbrydoli Dysgwyr, Cyflawni Potensial ac Ennill Rhagoriaeth.
Mae'r coleg yn ymrwymedig i gyflawni rhagoriaeth a darparu'r gwasanaeth gorau un i'n dysgwyr. Mae'r ymgyrch i wella ansawdd, addysgu a dysgu wrth wraidd ei swyddogaeth. Wedi'i lleoli ar Gampws Pibwrlwyd, mae'r gyfadran yn arbennig o weithgar wrth weithio gyda phartneriaid allanol a chyflwyno darpariaeth yn y gymuned a chyda diwydiannau lleol.
Mae'r maes Cyfadran yn bwriadu penodi darlithydd blaengar, dynamig sydd â'r weledigaeth a'r ysfa i ehangu cyfeiriad y ddarpariaeth busnes a rheolaeth yng Ngholeg Sir Gâr|Coleg Ceredigion yn y dyfodol.Gan ymgymryd â'r gwaith o gynllunio a chyflwyno cwricwlwm ILM Lefel 2 - Lefel 7, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn paratoi deunyddiau dysgu, yn asesu gwaith dysgwyr, yn monitro cynnydd ac yn cyfrannu at y gwaith o sicrhau ansawdd y ddarpariaeth.
Rydym yn chwilio am ddarlithydd ILM brwdfrydig a phenderfynol a fydd yn ennyn diddordeb dysgwyr yn y pwnc ac yn eu paratoi ar gyfer asesu. Mae gradd mewn Busnes neu bwnc cysylltiedig yn hanfodol. Byddai ymgeiswyr sydd â phrofiad o addysgu dysgwyr sy'n oedolion mewn lleoliadau tebyg ac sydd â statws athro cymwys yn cael eu ffafrio.
Cyfrifoldebau AllweddolBydd hi'n ofynnol i chi:
- Ymgymryd â'r gwaith o gynllunio, addysgu, asesu a chydlynu cymwysterau ILM Lefel 2-7.
- Ymgymryd â dyletswyddau sydd eu hangen ar gyfer y rôl hon, e.e. sicrhau ansawdd, ysgrifennu Rhaglen Ddysgu/Adolygiad Rhaglen Blynyddol, gofynion dilysu, ac ati.
- Cwblhau cymhwyster dilysydd o fewn blwyddyn i gael eich penodi (os nad ydych yn gymwys eisoes).
- Cymryd rôl fel Tiwtor Cwrs os yw'n briodol.
- Cyfrannu at ddatblygu a chyflwyno cyrsiau newydd a chreu diwylliant o arloesi.
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl cyfarwyddyd y Pennaeth/Prif Weithredwr, yn gymesur â gradd y swydd, yn y gweithle cychwynnol neu leoliadau eraill yn y Coleg.
- Gyfrannu at bob math o waith addysgol, gan gynnwys addysgu yn y dosbarth, gwaith tiwtorial a dyletswyddau estyn allan cysylltiedig, cyrsiau preswyl, agored a dysgu o bell a lleoliadau gwaith dysgwyr. Bydd hyn fel rheol yn golygu gwaith trefniadol a gweinyddu cysylltiedig, paratoi ac asesu, dilysu mewnol, targedau dysgwyr ac olrhain, cefnogi dysgwyr, lles priodol a chyfrifoldebau cynghori academaidd.
- Cyfrannu at reoli'r cwricwlwm o fewn maes eich rhaglen i gynnwys cyfweld a rhoi arweiniad, cynefino, asesu cychwynnol, a bodloni targedau ar gyfer cadw myfyrwyr, presenoldeb a chwblhau'n llwyddiannus.
- Cyfranogi a chyfrannu at agweddau ar ddatblygu'r cwricwlwm o fewn y gyfadran, y coleg a gydag ysgolion partner, sefydliadau addysgol eraill, budd-ddeiliaid a chyflogwyr.
- Cymryd rhan ym mhob agwedd ar systemau a chylch rheoli ansawdd y maes cwricwlwm a chadw atynt, gan gynnwys dilysu/cymedroli gwaith asesedig yn fewnol a sicrhau bod terfynau amser yn cael eu bodloni.
- Cyfrannu at adroddiad gwerthuso'r rhaglen ddysgu a diweddaru'r cynllun datblygu ansawdd yn rheolaidd.
- Ble bo'n briodol gweithredu rôl Cydlynydd Rhaglen e.e. Cydlynydd Rhaglen Ddysgu ac Arweinydd ,Cwrs.
- Cymryd rhan mewn asesu, cofnodi ac adrodd am waith a chynnydd dysgwyr a chyfathrebu ac ymgynghori â rhieni/gofalwyr dysgwyr a/neu gyflogwyr pan fo angen.
- Ble bo'n briodol, cysylltu â'r gofrestrfa/swyddfa arholiadau/swyddfa'r campws i weinyddu arholiadau ac asesiadau allanol yn effeithiol.
- Ble bo'n briodol, arolygu arholiadau ac asesiadau.
- Cynnal trefn a disgyblaeth dda ymhlith yr holl ddysgwyr y tu mewn a'r tu allan i'r ystafell ddosbarth. Cofnodi a monitro'r ymddygiad hwn yn unol â systemau a pholisïau'r coleg.
- Nodi unrhyw bryderon yn ymwneud â diogelu dysgwyr neu bobl berthynol sydd mewn perygl ac adrodd amdanynt wrth berson priodol.
- Cadw at weithdrefnau a phrotocolau iechyd a diogelwch y coleg ar y safle ac i ffwrdd o'r safle, gan gynnwys protocolau a gweithdrefnau ymweliadau addysgol ble bo angen, a chwblhau a diweddaru asesiadau risg priodol yn brydlon.
- Cymryd rhan mewn cyfarfodydd sy'n ymwneud â materion cwricwlaidd, ansawdd, gweinyddol neu drefniadol.
- Cymryd rhan mewn gweithgareddau marchnata a derbyn allanol a mewnol, gan gynnwys nosweithiau agored a chyfweliadau dysgwyr.
- Sicrhau bod y wybodaeth am y rhaglen/cwrs yr ydych yn gyfrifol amdani/amdano yn cael ei diweddaru gan ddefnyddio cronfa ddata'r coleg a chynhyrchu deunyddiau marchnata addas.
- Cyfathrebu straeon newyddion da gyda'r adran farchnata i gynnal proffil uchel ar gyfer eich maes a'r coleg, gan gynnwys defnyddio cyfryngau cymdeithasol.
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
- Gradd neu gymhwyster cyfwerth
- Cymhwyster addysgu (Os nad ydych yn meddu ar gymhwyster addysgu ar ddyddiad dechrau'r swydd, bydd hi'n ofynnol i chi ennill TAR o fewn 2 flynedd i'r dyddiad hwn)
- TGAU Saesneg a Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
- Tystiolaeth ddogfennol o Ddatblygiad Proffesiynol parhaus, priodol
- Sgiliau llythrennedd/rhifedd/llythrennedd digidol da
- Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol ardderchog
- Y gallu i weithio'n gytûn gyda dysgwyr a chydweithwyr
- Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
- Prydlondeb ardderchog a'r gallu i weithio'n hyblyg
- Profiad addysgu perthnasol
- Dealltwriaeth dda o faterion perthnasol mewn addysg ôl 16
- Hanes profedig o lefelau uchel o gyrhaeddiad dysgwyr
- Ymwybyddiaeth o ddangosyddion perfformiad allweddol
- Tystiolaeth o weithgareddau addysgu a dysgu arloesol
- Tystiolaeth o olrhain a monitro perfformiad dysgwyr yn effeithiol
- Profiad o gymryd rhan weithredol yng ngofal bugeiliol pobl ifanc
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Buddion
- Byddwch yn cael 46 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 59 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein