MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Bangor,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: gweithio hyblyg
- Math o gyflog: Fesul awr
- Cyflog: £21.83 - £33.74 yr awr yn cynnwys tal gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £21.83 - £33.74 yr awr yn cynnwys tal gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Mae'r rôl hon o fewn y maes Cyfryngau yn yr adran Celfyddydau Creadigol yng Ngholeg Menai, ac wedi'i leoli ar gampws newydd Bangor. Mae llwyddiant y cyrsiau Cyfryngau yn cael ei barchu ledled Cymru a thu hwnt, gyda chyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i lwyddiant cenedlaethol a rhyngwladol o fewn y sector.Mae ein cwricwlwm yn cynnwys cyrsiau AB (o lefel 1 i lefel 4)
Dyma gyfle i ddarlithydd Cyfryngau ymuno â'n tîm llwyddiannus, deinamig a chefnogol.
Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu safonau uchel o ddysgu ac addysgu ym maes eu harbenigedd a rhoi cefnogaeth, cyngor ac arweiniad parhaus i fyfyrwyr sy'n hyrwyddo llwyddiant.
Disgwyliadau allweddol y rôl:
1. Addysgu i safon uchel er mwyn creu cyfleoedd dysgu effeithiol ac er mwyn galluogi'r holl ddysgwyr i gyflawni hyd eithaf eu gallu.
2. Darparu profiadau allgyrsiol rhagorol i'n dysgwyr.
3. Cynnal safonau uchel y ddarpariaeth â'r gefnogaeth a roddir i'r dysgwyr.
4. Sichrau bod polisiau a gweithdrefnau'r Grŵp yn cael ei dilyn.
5. Cefnogi dysgwyr i lwyddo er mwyn cyflawni eu targedau neu uwch gan herio ac ymestyn ein dysgwyr.
Fe fyddwch yn darlithio ar gyrsiau Cyfryngau, gyda'r pwyslais ar addysgu sgiliau technegol, megis golygu. Mae'r swydd wedi ei leoli yng nghampws Newydd Bangor, ym Mharc Menai. Fe fydd adnoddau arbenigol ac arloesol ar gael, ac fe fyddwch yn rhan o ddatblygu'r cwricwlwm i adlewyrchu blaenoriaethau'r diwydiant creadigol yn y unfed ganrif ar hugain.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CM/210/25
Cyflog
£21.83 - £33.74 yr awr yn cynnwys tal gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Bangor
Hawl gwyliau
Bydd hawl i wyliau â thâl pro rata ym mhob blwyddyn academaidd (1 Medi i 31 Awst), sy'n cynnwys hawl pro-rata i 8 Gŵyl Banc a Gwyliau Cyhoeddus a welir fel arfer yng Nghymru a hawl pro-rata o hyd at 5 o wyliau effeithlonrwydd (sylwer y gall hyn newid yn flynyddol). Mae gwyliau blynyddol yn deillio o hawl pro rata cyfwerth ag amser llawn o 46 diwrnod.
Patrwm gweithio
Hyd at 16 awr yr wythnos ar gael. Cytundeb rhan amser, telir fesul awr o ddydd Llun - Gwener. Patrwm gwaith i'w gytuno yn ddibynnol ar argaeledd yn ystod tymor y Coleg (35 wythnos)
Mae'r pwnc a lefel y ddarpariaeth yn seiliedig ar gymwysterau a phrofiad.
Bydd canran ychwanegol o rhwng 10% - 63.33% (yn amodol ar feini prawf) yn cael ei gymhwyso i'r oriau cytundebol a weithiwyd i adlewyrchu paratoi a marcio.
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon
Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr
Dyddiad cau
18 Awst 2025
12:00 YH (Ganol dydd)