MANYLION
  • Lleoliad: Ar draws pob campws,
  • Cytundeb: gweithio hyblyg
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa Gyflog 1: £24,425 y flwyddyn pro rata
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 03 Awst, 2025 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Arlwyo

Coleg Penybont

Cyflog: Graddfa Gyflog 1: £24,425 y flwyddyn pro rata

Cynorthwyydd Arlwyo

Graddfa Gyflog 1: £24,425 y flwyddyn pro rata - £12.66 yr awr


27.5 awr yr wythnos

Yn ystod y tymor yn unig am 38 wythnos

Cyfnod penodol hyd at 31ain Awst 2026

Cyflog yn ystod y Tymor yn Unig (yn seiliedig ar 38 wythnos lawn o waith) - £15,208 y flwyddyn. Sylwch, bydd y cyflog gwirioneddol yn seiliedig ar nifer yr wythnosau a weithiwyd am weddill y flwyddyn academaidd.

Lleoliad: Ar draws pob campws

Pwrpas y Swydd: Byddwch yn cynorthwyo gyda pharatoi bwyd a diod sylfaenol (gan gynnwys coffi barista) ac yn cynorthwyo i gynnal amgylchedd glân a diogel.

Os oes gennych sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid gwych, ac rydych yn mwynhau gweithio yn y maes arlwyo, hoffem glywed gennych!

Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma: Pecyn Gwybodaeth Swydd.

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar Wiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y gweithlu plant ac oedolion.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.

Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.

Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.