MANYLION
- Lleoliad: Ar draws pob campws,
- Cytundeb: gweithio hyblyg
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa Gyflog 2: £24,425 y flwyddyn pro rata
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 03 Awst, 2025 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cyflog: Graddfa Gyflog 2: £24,425 y flwyddyn pro rata
CogyddGraddfa Gyflog 2: £24,425 y flwyddyn pro rata - £12.66 yr awr
35 awr yr wythnos
Yn ystod y tymor yn unig am 42 wythnos
Cyfnod penodol hyd at 31ain Awst 2026
Cyflog yn ystod y tymor yn unig (yn seiliedig ar 42 wythnos lawn o waith) - £21,394 y flwyddyn. Sylwch, bydd y cyflog gwirioneddol yn seiliedig ar nifer yr wythnosau a weithiwyd am weddill y flwyddyn academaidd.
Lleoliad: Ar draws pob campws
Pwrpas y Swydd: Paratoi a chynhyrchu amrywiaeth eang o seigiau o fewn yr allfeydd Arlwyo ar draws y campysau gan sicrhau bod yr holl weithdrefnau EHO, cynaliadwyedd ac ariannol yn cael eu dilyn.
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth am brosesau a deunyddiau glanhau
- Y gallu i gynorthwyo i gynhyrchu prydau o safon uchel. Gwybodaeth am arlwyo diwydiannol/ysgol
- Diogelwch bwyd Lefel 2 neu gyfwerth
- Sgiliau llythrennedd a rhifedd da
- Sgiliau coginio da iawn
- Brwdfrydedd dros goginio a chreu bwydlenni newydd
Meini prawf dymunol
- Lefel 3 Diogelwch Bwyd neu gyfwerth
- Profiad o ddefnyddio "prosesau coginio cyflymedig" gan gynnwys ffyrnau cyfunol a 'turbo'
- Cymhwyster Alergenau a Bwyd Iach
Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma: Pecyn Gwybodaeth Swydd .
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar Wiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y gweithlu plant ac oedolion.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.
Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.
Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.