MANYLION
  • Lleoliad: Schools,
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £25,992 - £27,269\nper annum (G04)
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Awst, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwydd Cymorth Presenoldeb

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: £25,992 - £27,269\nper annum (G04)

Lleoliad gwaith: Ysgolion Conwy

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sydd â sgiliau rhyngbersonol da sy'n mwynhau gweithio gyda phobl ifanc a helpu i oresgyn anawsterau yn yr ysgol a rhwystrau i fynychu'r ysgol.

Mae'r swydd yn dibynnu ar y gallu i feithrin perthnasoedd â dysgwyr a dealltwriaeth gadarn o'r materion sy'n achosi absenoldeb parhaus. Bydd y gwaith yn cynnwys gwaith un i un a grŵp.

Bydd deiliad y swydd hefyd yn cwblhau ymweliadau cartref a hebryngwyr er mwyn helpu teuluoedd i wella presenoldeb ysgol eu plant. Mae'r gallu i weithio fel rhan o dîm ac i gyfathrebu â gweithwyr proffesiynol amrywiol o fewn ysgolion ac asiantaethau partner yn allweddol. Mae'r Awdurdod Lleol wedi ymrwymo i hyrwyddo lles ei blant a'i deuluoedd.

Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:

Ffion Hughes, Rheolwr Dros-Dro

( Ffion.hughes@conwy.gov.uk / 01492 575032 )

Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn dymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.

Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.

Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.

Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).

Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.

This form is also available in English.