MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Schools,
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £39,513 - £42,708\nY flwyddyn (G08)
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £39,513 - £42,708\nY flwyddyn (G08)
Lleoliad gwaith: Ysgolion ConwyGweithiwr Cymdeithasol Addysg / Swyddog Lles Addysg (8 mis)
Ydych chi'n angerddol ynglŷn â chefnogi plant a phobl ifanc i ffynnu mewn addysg? A oes gennych chi gefndir cryf o ran gweithio gyda theuluoedd, ysgolion a thimau aml-asiantaeth. Os felly, fe allai hyn fod y cyfle perffaith i ehangu eich profiad a gwneud gwahaniaeth go iawn.
Bydd cyfleoedd am secondiad yn cael eu hystyried, ceisiwch gael caniatâd gan eich rheolwr cyn gwneud cais am secondiad.
Ynglŷn â'r Swydd
Fel Gweithiwr Cymdeithasol Addysg / Swyddog Lles Addysg, byddwch yn chwarae rhan hanfodol mewn hyrwyddo presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol a chefnogi dysgwyr sy'n wynebu rhwystrau i addysg. Byddwch yn gweithio'n agos gyda theuluoedd, ysgolion ac asiantaethau partner i asesu anghenion, datblygu strategaethau a gweithredu ymyriadau sy'n helpu plant i ail-ymgysylltu gyda dysgu.
Mae hon yn swydd amrywiol a sy'n rhoi llawer o foddhad.
Am beth rydym ni'n chwilio
• Bydd gennych gymhwyster proffesiynol mewn Gwaith Cymdeithasol neu radd berthnasol
• Profiad o weithio'n uniongyrchol gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd
• Gwybodaeth gadarn yn ymwneud â deddfwriaeth addysg ac arferion diogelu
• Sgiliau cyfathrebu, asesu a datrys problemau rhagorol
Byddwch hefyd yn cael:
• 26 diwrnod o wyliau blynyddol + gwyliau banc
• Cynllun pensiwn hael
• Aelodaeth Ffit Conwy gostyngedig fel rhan o Wobrau Conwy
• Hyfforddiant wrth gyflawni'r swydd a mynediad at gymwysterau drwy Hyfforddiant a Datblygiad Corfforaethol
• ....a llawer iawn mwy!
Os ydych yn barod i gefnogi dysgwyr ifanc Conwy a gwneud gwahaniaeth go iawn i'w bywydau, rydym yn awyddus i glywed gennych chi.
Dyma gyfle gwych i ddatblygu eich sgiliau mewn swydd gefnogol a sy'n cael effaith, gan weithio yng nghanol addysg a lles yng Nghonwy.
Oherwydd natur y swydd, bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn destun datgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:
Ffion Hughes, Safeguarding/ Elective Home Education Co-ordinator
( ffion.hughes@conwy.gov.uk / 01492575032 )
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.