MANYLION
  • Lleoliad: Rhos-on-Sea,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £32,192.24 - £34,347.66 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Awst, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Gyrfaoedd a Derbyniadau Addysg Uwch y Grŵp

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £32,192.24 - £34,347.66 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Darparu gwasanaeth cynghori a chefnogi effeithiol, effeithlon a chyfeillgar i ddarpar fyfyrwyr a phrentisiaid addysg uwch sy'n astudio yng Ngholeg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor. Bydd y dyletswyddau'n cynnwys goruchwylio'r broses dderbyn ar gyfer ymgeiswyr AU ar y cyd â Thiwtoriaid Personol a staff eraill y Gwasanaethau i Ddysgwyr; gweinyddu a gweithredu system UCAS a'r system ymgeisio i'r coleg yn uniongyrchol; darparu gwybodaeth ac arweiniad cywir a chyfredol i ymgeiswyr, dysgwyr a staff ynghylch cyllid a chyrsiau addysg uwch; ymgymryd yn flynyddol â dyletswyddau Cadarnhau a Chlirio a chefnogi holl ddigwyddiadau recriwtio'r Grŵp.

Byddwch yn gallu dangos bod gennych brofiad o ddarparu cyngor ar yrfaoedd a gwybodaeth gadarn o faterion cyllido myfyrwyr addysg uwch. Mae angen gallu i fod yn hyblyg a gweithio mewn amgylchedd deinamig. Mae'n hanfodol fod gennych sgiliau gwasanaethu cwsmeriaid, sgiliau cyfathrebu a sgiliau TG o'r radd flaenaf

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
AS/201/25

Cyflog
£32,192.24 - £34,347.66 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Llandrillo-yn-Rhos

Hawl gwyliau
  • 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
  • Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
  • Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.

Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol

Dyddiad cau
07 Awst 2025
12:00 YH (Ganol dydd)