MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Brynmenyn Primary,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athrawes Dros Dro - Ysgol Gynradd Brynmenyn
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
Athrawes Dros Dro - Ysgol Gynradd BrynmenynDisgrifiad swydd
32.5 awr yr wythnos
Dros dro - 1 flwyddyn
Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Brynmenyn yn dymuno penodi athro/athrawes Feithrin eithriadol sydd â brwdfrydedd, angerdd a chreadigrwydd ar gyfer addysgu ein disgyblion ieuengaf.
Bydd angen i'r athro/athrawes a benodir:
- Ddangos arfer rhagorol yn yr ystafell ddosbarth.
- Meddu ar y gallu i gyrraedd safonau uchel drwy ddisgwyliadau uchel o gynnydd ac ymddygiad.
- Yn meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth gref o'r Cwricwlwm i Gymru.
- Creu amgylchedd dysgu sy'n cael ei arwain gan sgiliau yn yr ystafell ddosbarth a'r tu allan iddi.
- Gallu arwain ar un o agweddau Cwricwlwm i Gymru ar draws yr ysgol, neu ddangos parodrwydd i wneud hynny.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth dda o anghenion dysgu ychwanegol gan gynnwys ymddygiad.
- Gallu gweithio ar y cyd â staff yn eu dosbarth ac fel rhan o dîm yr ysgol.
- Ymrwymedig i'w datblygiad proffesiynol eu hunain a gwella'r ysgol.
- Gallu gwneud cyfraniad cadarnhaol at fywyd ehangach yr ysgol.
- Dangos agwedd gadarnhaol ac uniaethu â gwerthoedd ac ethos yr ysgol.
Mae Ysgol Gynradd Brynmenyn yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac yn disgwyl i'r holl staff rannu'r ymrwymiad hwn.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon
Dyddiad Cau: 30 Gorffennaf 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 25 Awst 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 04 Medi 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person