MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llanelli, Sa15 4DN
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £50,320 / blwyddyn
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £50,320 / blwyddyn
Rheolwr Iechyd a DiogelwchApplication Deadline: 18 August 2025
Department: Ystadau
Employment Type: Dros dro
Location: Campws Graig
Compensation: £50,320 / blwyddyn
DescriptionMae Bwrdd Cyfarwyddwyr Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi ymrwymo i benodi'r staff gorau posibl sy'n cyflawni rhagoriaeth yn eu gwaith. Gan weithio i'r gwerthoedd a'r ymddygiadau sy'n tanategu cynllun strategol a busnes y sefydliad, mae'r Coleg yn ceisio staff sy'n arddangos creadigrwydd ac arloesedd, tra'n gyrru eu perfformiad eu hunain, a pherfformiad eraill, i ddarparu'r profiad a'r gwasanaeth gorau posibl i ddysgwyr.
Swydd sydd newydd gael ei chreu yw hon ac mae'n gyfle cyffrous i unigolyn ymrwymedig, brwdfrydig a phrofiadol ymuno â'r Tîm Ystadau a Gwasanaethau Gweithredol mewn rôl hanfodol o reoli a monitro iechyd a diogelwch yr holl ddysgwyr, staff, ymwelwyr a chontractwyr ar draws 7 campws Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion.
Bydd y Rheolwr Iechyd a Diogelwch yn gyfrifol am sicrhau bod holl bolisïau, prosesau, gweithdrefnau ac arferion Iechyd a Diogelwch y Coleg yn unol â ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth gyfredol, codau ymarfer cymeradwy a chyfarwyddyd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE). Bydd y gwaith yn cwmpasu ystod amrywiol iawn o weithgareddau, yn cynnwys er enghraifft y Cyfadrannau Celf a Dylunio, Peirianneg, Gwallt a Harddwch, Arlwyo, Cerbydau Modur, Chwaraeon, Ar Dir gan gynnwys Ceffylau, Amaethyddiaeth a Fferm fasnachol.
Rhaid bod deilydd y swydd yn meddu ar Ddiploma NEBOSH neu Radd Iechyd a Diogelwch ac yn aelod Siartredig y Sefydliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol (IOSH) neu'n gweithio tuag at aelodaeth siartredig. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus arddangos profiad blaenorol mewn rôl reoli Iechyd a Diogelwch, meddu ar sgiliau cyfathrebu ardderchog ynghyd â phrofiad o ddylanwadu ar ymddygiad eraill.
Bydd y rôl yn cynnwys teithio a gweithio ar yr holl gampysau sydd wedi'u lleoli yn Rhydaman, Llandeilo, Caerfyrddin, Llanelli, Aberteifi ac Aberystwyth a bydd ganddo/ganddi gyfrifoldeb rheolwr llinell dros Swyddog Iechyd a Diogelwch.
Cyfrifoldebau AllweddolPolisïau, Gweithdrefnau a Systemau Rheoli
- Sicrhau bod y Coleg yn cyflawni ei rwymedigaethau statudol ym mhob maes sy'n ymwneud ag iechyd, diogelwch a lles yn y gwaith;
- Dogfennu, gweithredu, cynnal a gwella'n gyson systemau rheoli Iechyd a Diogelwch y Coleg;
- Arwain y gwaith o roi gweithdrefnau gweithredol Iechyd a Diogelwch ar waith i sicrhau effeithiolrwydd a chydymffurfiad gweithredol;
- Darparu hyfforddiant, cyngor a chyfarwyddyd iechyd a diogelwch i'r holl staff yn y Coleg Sicrhau bod holl wybodaeth iechyd a diogelwch yn cael ei chadw'n gyfoes a'i bod yn hawdd i staff ei chyrchu o fewn systemau gwybodaeth y coleg;
- Cynnal ymwybyddiaeth o ddeddfwriaeth newydd a diwygiedig sy'n berthnasol i'r rôl ac argymell newidiadau yn ôl y gofyn;
- Datblygu cynllun strategol 3 blynedd ar gyfer gwelliant parhaus mewn systemau rheoli iechyd a diogelwch ynghyd ag adolygiad blynyddol.
- Paratoi adroddiadau, ystadegau a chynlluniau gweithredu yn ôl y gofyn, ar gyfer eu cyflwyno i'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth, Adran Weithredol a Bwrdd Llywodraethol y Coleg;
- Mynychu cyfarfodydd Iechyd a Diogelwch yn ôl y gofyn a darparu gwybodaeth berthnasol ar ddarpariaeth gan gynnwys paratoi papurau ac adroddiadau ar gyfer trafodaeth, adolygu a gweithredu;
- Pan fo'n ofynnol, Cadeirio cyfarfodydd Pwyllgor Iechyd a Diogelwch y Coleg;
- Gweithio'n rhagweithiol gyda'r holl staff i sefydlu a chynnal system sy'n hyrwyddo diwylliant o arferion gwaith diogel ar draws y Coleg.
- Cyfathrebu a hyrwyddo cysylltiadau gydag asiantaethau allanol, arbenigwyr ac ymarferwyr iechyd a diogelwch Coleg eraill;
- Adrodd wrth y Cyfarwyddwr Ystadau a Gwasanaethau Gweithredol ac i bob pwrpas bod yn rheolwr llinell i Swyddog Iechyd a Diogelwch y Coleg;
- Ymgymryd ag ymchwiliadau fel bo'n ofynnol a chysylltu â HSE yn ôl yr angen..
- Sicrhau y cedwir cofnodion iechyd a diogelwch cyflawn a chywir gydag adroddiadau a chynlluniau gweithredu'n cael eu diweddaru'n rheolaidd;
- Rheoli a monitro cwblhad gwneud profion statudol ar gyfarpar a systemau i sicrhau y gwneir gwiriadau ar amser ac y cedwir cofnodion priodol;
- Lleihau'r tebygolrwydd o heriau cyfreithiol trwy ddeall deddfwriaeth gyfredol ac arfaethedig a chyfathrebu hyn yn effeithiol, gorfodi rheoliadau, argymell gweithdrefnau newydd a sicrhau bod yr holl adrannau yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol;
- Sicrhau bod y gwaith o wirio lleoliadau hyfforddi a chyfleusterau, gan gynnwys dysgu seiliedig ar waith, dysgu yn y gweithle a phrofiad gwaith yn cael ei gyflawni'n effeithiol yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru;
- Sicrhau bod y Coleg yn cydymffurfio â'r rhwymedigaethau iechyd a diogelwch a ofynnir gan Bwbl (Consortiwm Dysgu Seiliedig ar Waith De-orllewin Cymru).
- Darparu cyngor ar drefniadau'r Coleg ar gyfer diogelwch a chynllunio ar gyfer argyfwng;
- Adrodd wrth y Cyfarwyddwr Ystadau a Gwasanaethau Gweithredol ynghylch unrhyw ddiffyg cydymffurfio.
- Cynllunio a rheoli rhaglen o Archwiliadau Mewnol ac Arolygon Iechyd a Diogelwch (ar gyfer Cyfadrannau a hefyd cydymffurfiad adeiladu cyffredinol ystadau);
- Rheoli ac ymgymryd â'r rhaglen o arolygon ac archwiliadau, cyhoeddi adroddiadau gyda chasgliadau ynghyd ag unrhyw argymhellion os y'u hystyrir yn briodol. Sicrhau y cymerir camau gweithredu ynghylch unrhyw gasgliadau;
- Darparu gwybodaeth iechyd a diogelwch i Archwilwyr Mewnol ac Allanol y Coleg pan ofynnir i wneud hynny.
- Paratoi asesiadau risg tân a datblygu cynlluniau argyfwng diogelwch tân gydag adolygiadau a diweddariadau blynyddol;
- Rheoli a monitro cydymffurfiad â Rheoliadau Tân, Gweithdrefnau Rheoli Tân ac Asesiadau Risg Tân;
- Sicrhau y caiff driliau tân eu cynnal bob tymor ar bob safle. Dogfennu a monitro penderfyniadau i gymryd camau o ganlyniad i'r driliau a gweithredoedd yn deillio o larymau tân yn actifadu;
- Darparu cyngor ar Gynlluniau Gwacáu mewn Argyfwng Personol.
- Sicrhau y caiff gofynion a darpariaethau cymorth cyntaf eu nodi a'u cynnal ar draws y Campysau:
- Cadw gwybodaeth gyfoes ynghylch personél Cymorth Cyntaf hyfforddedig a darparu gwybodaeth adroddiad ystadegol;
- Sicrhau bod staff cymorth cyntaf hyfforddedig digonol ar y campysau yn ystod oriau gweithredol;
- Sicrhau bod pob damwain / digwyddiad / damweiniau fu bron â digwydd yn cael eu dogfennu'n gywir, eu hymchwilio a bod gwelliannau a argymhellir yn cael eu rhoi ar waith;
- Sicrhau y gwneir adroddiad cywir ynghylch pob damwain / digwyddiad / damweiniau fu bron â digwydd fel bo'n briodol gan gynnwys adroddiad RIDDOR;
- Lle bo angen, ymgymryd ag ymchwiliadau i ddamweiniau / digwyddiadau / damweiniau fu bron â digwydd, argymell camau cywiro ac olrhain y camau gweithredu drwodd hyd y cânt eu cwblhau fel y bo'n briodol;
- Adolygu cofnodion damweiniau / digwyddiadau / damweiniau fu bron â digwydd yn rheolaidd a darparu adroddiadau tueddiadau data ystadegol i'w cyflwyno i Adran Weithredol a Bwrdd Corfforaethol y Coleg;
- Nodi risgiau'n ymwneud ag iechyd a diogelwch a sicrhau y caiff asesiadau risg eu gwneud a'u hadolygu pan fod angen;
- Rhoi cyngor a chymorth i staff ar gwblhau asesiadau risg (gan gynnwys er enghraifft: COSHH, PUWER, Gweithio ar Uchder, LOLER);
- Cynghori a chynorthwyo wrth gyflawni asesiadau risg arbenigol megis Cyfarpar Sgrin Arddangos, Mamau Newydd a Gweithwyr Beichiog, Gweithio ar eich Pen eich Hun ac ati yn ôl y gofyn.
- Rheoli a chyflawni ymweliadau ac ailymweliadau arolygu yn ymwneud ag iechyd a diogelwch yn ôl y gofyn;
- Darparu adroddiadau ac adborth manwl ar unrhyw arolygiad a gyflawnwyd, gan gynnwys rhoi argymhellion;
- Derbyn a dosbarthu adroddiadau arolygon yswiriant statudol gan gynnwys LOLER, PUWER ac ati a sicrhau y caiff diffygion ac argymhellion eu cwblhau gan y Gyfadran berthnasol.
- Cynllunio a chyflwyno rhaglenni hyfforddiant, sesiynau a sesiynau briffio iechyd a diogelwch fel y bo'n briodol i'r holl staff ar draws y Coleg.
- Rheoli a monitro gweithrediad a chydymffurfiad Polisi Ymweliadau Addysgol y Coleg, adolygu gwaith papur a chysylltu â Threfnwyr Teithiau. Sicrhau bod gweithgareddau dysgwyr i ffwrdd o'r safle yn cael asesiad risg trylwyr gan Gyfadrannau perthnasol, a'u bod yn ymchwilio ac yn adrodd ynghylch digwyddiadau sy'n digwydd yn ystod ymweliad;
- Darparu cyngor a hyfforddiant iechyd a diogelwch i staff ar bob Ymweliad Addysgol.
- Darparu cyngor proffesiynol priodol mewn perthynas â phrosiectau cyfalaf, datblygiadau ar y campysau a phrynu a gosod peiriannau neu gyfarpar newydd;
- Cynorthwyo staff yr Adran Ystadau, Rheolwr Gweithrediadau'r Campws a Rheolwyr Campws wrth ddatblygu, gweithredu a chynnal trefniadau diogelwch tân a threfniadau diogelwch dŵr cadarn ar draws yr holl gampysau;
- Cynorthwyo'r Tîm Ystadau, gwasanaethau brys, HSE ac unrhyw arolygwyr gorfodaeth, rheoliadol neu yswiriant os cânt eu galw allan i dir ac adeiladau'r Coleg;
- Cefnogi'r Coleg gyda chadw ei Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd Lefel 5.
- Cynorthwyo mewn unrhyw sefyllfa yn y Coleg sy'n golygu bod angen i iechyd a diogelwch fod yn rhan;
- Sicrhau rheolaeth gyllidebol briodol ac ymlyniad i weithdrefnau ariannol;
- Cymryd rhan mewn datblygiad proffesiynol parhaus (CPD) i gadw gwybodaeth yn gyfoes;
- Yn absenoldeb y Cyfarwyddwr Ystadau a Gwasanaethau Gweithredol cynrychioli'r Coleg mewn cyfarfodydd a digwyddiadau iechyd a diogelwch priodol;
- Cynorthwyo gyda dyletswyddau eraill sy'n gymesur â gradd y swydd ar gais y Cyfarwyddwr Ystadau a Gwasanaethau Gweithredol neu'r Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid.
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl cyfarwyddyd y Pennaeth/Prif Weithredwr, yn gymesur â gradd y swydd, yn y gweithle cychwynnol neu leoliadau eraill yn y Coleg.
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
- Diploma NEBOSH neu Radd Iechyd a Diogelwch berthynol
- Weithio yn y sector iechyd a diogelwch
- Cyfathrebwr da â diplomyddiaeth a thact
- Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol da
- Y gallu i weithio'n gytûn gyda chydweithwyr
- Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
- Sgiliau cyflwyno da
- Y gallu i ddefnyddio ystod o systemau a phecynnau TG yn gymwys
- Aelodaeth siartredig o IOSH neu'n gweithio tuag at aelodaeth siartredig
- Profiad o weithio ym maes iechyd a diogelwch mewn amgylchedd sector addysg
- Profiad o weithio ar lefel Reoli
- Y gallu i deithio rhwng yr holl gampysau
Yr Iaith Gymraeg:
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Buddion
- Byddwch yn cael 37 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein