MANYLION
  • Lleoliad: Llangefni,
  • Cytundeb: gweithio hyblyg
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £28,729.56 - £31,176.06 y flwyddyn pro rata, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Asesydd Lleoliad Gwaith - Astudiaethau Plentyndod, Tymor yn Unig

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £28,729.56 - £31,176.06 y flwyddyn pro rata, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Fel asesydd, byddech chi'n gyfrifol am gyflwyno hyfforddiant, asesu a dilysu gwaith dysgwyr. Byddwch yn gweithio ar y cyd ag aelodau eraill ein tîm bach lleoliadau gwaith i gefnogi dysgwyr i ymgysylltu â'u lleoliad gwaith a pherfformio'n dda ynddo. Disgwylir i chi fonitro cynnydd pob dysgwr a byddech yn gweithio'n agos gyda thîm addysgu Datblygiad ac Addysg Plant (y Cydlynydd, Arweinydd y Rhaglen, aseswyr eraill a thîm ehangach y coleg) i sicrhau bod y dysgwyr yn cwblhau hyfforddiant yn foddhaol ac yn cyflawni eu cymhwyster. Byddech chi'n arwain sesiynau gweithdy grŵp wythnosol rheolaidd i baratoi dysgwyr ar gyfer eu lleoliad gwaith fel rhan o'r swydd.

Mae rôl yr asesydd yn cynnwys cynnal llwyth achosion o ddysgwyr Addysg Bellach llawn amser, cefnogi'r dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth o'r wybodaeth sylfaenol sy'n ymwneud â'r diwydiant a hefyd gweithio ochr yn ochr â'r cyflogwr i sicrhau bod pob dysgwr yn cael cyfleoedd i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i ddangos cymhwysedd i fodloni a rhagori ar ofynion eu cymhwyster. Disgwylir i aseswyr ddefnyddio sgiliau rheoli amser rhagorol i gynllunio ymweliadau â lleoliadau i gynnal arsylwadau ac i roi cefnogaeth i'r dysgwr a hefyd weithiau i'r cyflogwr i sicrhau cwblhau agweddau lleoliad gwaith y cymhwyster yn llwyddiannus. Mae'n hanfodol i'r rôl eich bod yn sicrhau bod yr holl ddogfennaeth briodol yn cael ei chwblhau a'i chyflwyno'n gywir ac yn amserol. Bydd yr asesydd hefyd yn sicrhau eu bod yn adlewyrchu cenhadaeth, gwerthoedd ac amcanion y Grŵp. Bydd yr asesydd yn cynrychioli'r tîm Datblygiad ac Addysg Plant a disgwylir iddo hyrwyddo'r cyrsiau a gynigir, er mwyn annog recriwtio, mewn digwyddiadau fel Nosweithiau Agored a digwyddiadau recriwtio eraill. Byddech chi'n cymryd rhan mewn cyfarfodydd tîm ac yn rhoi adborth ar gynnydd a pherfformiad dysgwyr. Byddech hefyd yn cyfrannu at Adroddiad Gwerthuso'r Rhaglen ar ddiwedd y flwyddyn i lywio datblygiad ansawdd y rhaglen.

Mae'n bwysig grymuso dysgwyr i reoli eu dysgu eu hunain, sy'n cynnwys eu cefnogi i gynllunio ar gyfer eu hasesiadau, cydnabod eu hanghenion datblygu eu hunain a bod yn gyfrifol am eu datblygiad proffesiynol eu hunain. Mae sgiliau cyfathrebu effeithiol yn hanfodol ar gyfer y rôl hon gan fod aseswyr yn cysylltu ag amrywiaeth o staff eraill i gefnogi'r dysgwr. Mae cyfathrebu effeithiol yn sicrhau bod y dysgwyr yn cwblhau ac yn cyflawni eu cymhwyster o fewn yr amserlen dynn. Er bod y rôl yn ymwneud yn bennaf â chefnogi dysgwyr yn y gweithle, mae disgwyliad y bydd yr asesydd hefyd yn cefnogi datblygu sgiliau ar y safle yng nghyfleusterau'r coleg yn Llangefni. Mae hyn yn golygu gweithio gyda'r myfyrwyr i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer lefel eu cwrs trwy arddangos, darparu cymorth un i un a chynorthwyo ac arsylwi mewn grwpiau bach.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CM/190/24

Cyflog
£28,729.56 - £31,176.06 y flwyddyn pro rata, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Llangefni
  • Wedi ei nodi yn y Swydd Ddisgrifiad

Hawl gwyliau
  • 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
  • Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
  • Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
  • Bydd gan y rhai ar gontractau Rhan-amser hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod.
  • Bydd gan y rhai ar gontractau Amser Tymor hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod a delir fel rhan o'r cyflog blynyddol.

Patrwm gweithio
22.5 awr yr wythnos, 36 wythnos y flwyddyn, Tymor yn Unig (yn ystod tymor y Coleg)

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr

Dyddiad cau
24 Gorff 2025
12:00 YH (Ganol dydd)