MANYLION
  • Lleoliad: Rhyl,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £32,192 - £ 34,347 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Goruchwylydd Sgiliau Ymarferol (Modurol, Trwsio a Phaentio Cyrff Cerbydau)

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £32,192 - £ 34,347 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

O dan arweiniad staff darlithio, bydd y Goruchwylydd Sgiliau Ymarferol yn darparu hyfforddiant a chyfarwyddyd i ddysgwyr sy'n gwneud gweithgareddau ymarferol mewn gweithdy ymarferol, cegin neu amgylchedd salon a byddant yn cynorthwyo a chefnogi darlithwyr i olrhain ac asesu cynnydd dysgwyr gan gynnig arweiniad a chefnogaeth os yn briodol.

Bydd y goruchwyliwr yn sicrhau safonau priodol o ddisgyblaeth, iechyd, diogelwch a llesiant, gan gynnal cydymffurfiaeth ag arferion iechyd a diogelwch ac amgylcheddol. Bydd y cyfrifoldebau hefyd yn cynnwys paratoi deunyddiau, offer, cyfarpar, a gweithfannau ar gyfer sesiynau ymarferol, cynnal amgylchedd y gweithdy, offer, a pheiriannau yn ystod sesiynau pan nad oes addysgu yn digwydd, a chyfrannu at weithgareddau marchnata a recriwtio, a datblygiad proffesiynol yn ôl yr angen.

Mae'n debygol y bydd y Goruchwylydd Sgiliau Ymarferol wedi ei amserlennu am hyd at 1000 o oriau cyswllt gyda dysgwyr yn ystod y flwyddyn academaidd gyda lleiafswm o 500 awr yn goruchwylio dysgwyr mewn gweithdy.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CL/187/25

Cyflog
£32,192 - £ 34,347 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Y Rhyl

Hawl gwyliau
  • 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
  • Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
  • Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.

Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol

Dyddiad cau
23 Gorff 2025
12:00 YH (Ganol dydd)