MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 09 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Pennaeth Ysgol Gymraeg Brynsierfel

Cyngor Sir Caerfyrddin
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.

Ynglŷn â'r swydd wag

Cyfeirnod y Swydd Wag: 2017

Sefydliad:

Ysgolion

Nifer y swyddi gwag:

1

Math o gontract:

Parhaol Amser Llawn

Lleoliad:

Llanelli, Sir Gaerfyrddin

Gradd:

Penaethiaid/Penaethiaid Cynorthwyol/Dirprwy Benaethiaid - Cyflog ac Amodau

Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny

Cyflog o:

L15 - £71,523

Cyflog i:

L21* - £82,047

Oriau Contract:

Llawn Amser

Dewch i ymuno â'n tîm

Yn eisiau erbyn Ionawr 2026, neu cyn gynted ag sy'n bosib.

Mae llywodraethwyr Ysgol Gymraeg Brynsierfel yn chwilio am bennaeth ysbrydoledig, brwdfrydig, ymroddgar a deinamig i arwain ein hysgol gymunedol fywiog ym Mhentref Llwynhendy, Llanelli.

Yn Ysgol Brynsierfel, ein nod yw creu amgylchedd cartref-oddi-cartref i'n dysgwyr - lle cânt eu meithrin i ffynnu a thyfu. Rydym yn anelu at greu diwylliant gofalgar a chynhwysol sy'n dathlu ein hunaniaeth unigryw fel "calon y gymuned."

Mae ein harwyddair - "Bach yw hedyn pob mawredd" - yn ein hatgoffa bod gan bob disgybl y potensial i dyfu'n ddinasyddion ardderchog ac unigolion arbennig. Credwn ym mawredd naturiol pob person. Fel ysgol sy'n parchu hawliau, rydym yn gwrando'n astud ar lais ein disgyblion a'n cymuned ehangach - mae barn a dyheadau pawb yn bwysig i ni.

Rydym yn chwilio am rywun sydd:
  • â gweledigaeth glir o ragoriaeth addysgol ac angerdd dros godi safonau
  • yn gallu adeiladu ar gryfderau presennol yr ysgol a datblygu potensial pob dysgwr a staff
  • yn gallu ysbrydoli ac ysgogi disgyblion a staff i lwyddo hyd eithaf eu gallu
  • ag uchel ddisgwyliadau o ran cynnydd, cyrhaeddiad ac ymddygiad disgyblion, gan ganolbwyntio ar eu llesiant
  • â'r egni i gynnal a datblygu cwricwlwm eang, cyfoethog ac ystyrlon, yn unol ag egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru
  • yn gyfathrebwr rhagorol sy'n hyderus yn y Gymraeg a'r Saesneg, ac yn gallu ymgysylltu'n effeithiol â'r gymuned ysgol gyfan

Mae'r ysgol hon wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac mae'n disgwyl i'r holl staff rannu'r ymrwymiad hwn.

Am drafodaeth anffurfiol neu i drefnu ymweliad a'r ysgol, cysylltwch Dafydd Jenkins, Cadeirydd y Llywodraethwyr ar JenkinsD286@hwbcymru.net neu 01554 758582.

Dyddiad Cau: Canol dydd ar Ddydd Mercherm 9fed Gorffennaf 2025

Llunio'r Rhestr Fer: Dydd Iau, 10fed Gorffennaf 2025

Cyfweliadau: Dydd Iau, 17eg Gorffennaf 2025

Disgrifiad Swydd:

25-06-30 - Pennaeth Brynsierfel (006544).pdf - 1457KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~

Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad:

17 Gorffennaf 2025

Lefel DBS:

Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.

Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:

Lefel 5 - Bydd angen ichi allu cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.

Dyddiad Cau: 09/07/2025, 12:00

Y Buddion

Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
  • Cyflog cystadleuol
  • Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
  • Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
  • Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
  • Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
  • Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd

Gwybodaeth Ychwanegol

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.

Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.

Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.

Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.