MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Glynllifon,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £32,192.24 - £34,347.66 yn dibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 11 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £32,192.24 - £34,347.66 yn dibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Mae'r adran Coedwigaeth a Rheolaeth Cefn Gwlad wedi ei leoli ar safle Glynllifon. Mae myfyrwyr yn astudio cyrsiau llawn amser lefel 2 a 3. Bydd myfyrwyr yn mynd ymlaen i'r byd gwaith trwy weithio i cyflogwyr sydd yn arbenigh mewn nifer o feusydd priodol fel cynnal a chadw ystad, cynnal a chadw tir, plannu gofalu a chynaeafu coed, cadwraeth cefn gwlad a natur, prosesu coed i gynhyrchion. Bydd cyflogwyr yn bechnogion coedwigoedd a tir neu yn gwmniau gwerthy gwasanaethau.Gydag arweiniad, fe fydd y Goruchwylydd Sgiliau Ymarferol yn gweithio i ddatblygu dealltwriaeth a sgiliau myfyrwyr trwy gynllunio gweithgareddau ymarferol. Mae'r tasgau hyn yn dilyn cynllun gwaith sy'n datblygu yn ystod y tymor i sefydlu cymhwysedd myfyrwyr fel eu bod yn cyrraedd gofynion y cwrs. Fel rhan o'r swydd mae proses ffurfiol o asesu myfyrwyr yn defnyddio meini prwf byrddau arholi, mae cwblhau'r broses yma yn rhan pwysig o'r swydd.
Mae'r adran yn hyfforddi myfyrwyr mewn agweddau gwahanol o gwaith coedwigaeth trwy ddefnyddio adnoddau Coleg Glynllifon. Mae 350 acer o goedwig amrywiol ar y safle ynghyd a iard goed gyda amrywiaeth o beiriannu perthnasol yn cynnwys melin goed dan do, peiriannau prosesu coed, blaenwr coedwigaeth a winsh yn ogystal a peiriannau llai fel llif-gadwyn a strimiwr.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddianuf fod yn gyfarwydd a defnyddio ystod eang o beiriannu a prosesau mewn ffordd saff gyda profiad o weithio yn ymarferol mewn diwydiant perthnasol. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus gymryd cyfrifoldeb am sicrhau diogelwch peiriannau trwy archwilio offer a thrwsio lle yn ymarferol.
Bydd y Goruchwylydd Sgiliau Ymarferol yn cynorthwyo a chefnogi darlithwyr i nodi ac asesu cynnydd dysgwyr gan gynnig arweiniad a cefnogaeth. Bydd y person llwyddiannus yn asesu myfyrwyr ar rhai agweddau o'r cwrs yn erbyn meini prawf perthnasol.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
BD/173/25
Cyflog
£32,192.24 - £34,347.66 yn dibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Glynllifon
Hawl gwyliau
- • 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
- • Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
- • Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol
Dyddiad cau
11 Gorff 2025
12:00 YH (Ganol dydd)