MANYLION
  • Lleoliad: Nantgarw Campus,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £26,019 - £49,962.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 06 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro Cymraeg Ail Iaith a Chymwyster Bagloriaeth Cymru (cyf Cymraeg)

Coleg Y Cymoedd

Cyflog: £26,019 - £49,962.00

Athro Cymraeg Ail Iaith a Chymwyster Bagloriaeth Cymru (cyf Cymraeg)
Swydd ddisgrifiad
Am y rôl:

Rydym yn chwilio am Athro Cymraeg Ail Iaith a Bagloriaeth Cymru angerddol, ymroddedig a gwybodus i ymuno â'n tîm deinamig. Mae hwn yn gyfle cyffrous i addysgwr brwdfrydig gyflwyno gwersi o ansawdd uchel a diddorol trwy gyfrwng y Gymraeg, gan ysbrydoli dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau iaith a'u dealltwriaeth ddiwylliannol.

Gwybodaeth Bellach:

Mae angen i staff a gyflogir yng Ngholeg y Cymoedd fod yn gyfrifol am ddiogelu ac am hyrwyddo lles y dysgwr.

Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y mae'r Coleg yn gofyn amdanyn nhw, naill ai yn eich prif weithle neu yn adeiladau eraill y Coleg, sy'n gymesur â gradd a chyfrifoldebau'r rôl.

Cydnabyddir y gall dyletswyddau a chyfrifoldebau pob swydd newid o bryd i’w gilydd a gellir diwygio disgrifiadau swydd mewn ymgynghoriad â deiliad y swydd i adlewyrchu’r newidiadau hynny sy’n gymesur â’r rôl.

Canllawiau Cais:

Yn unol â Pholisi Recriwtio’r Coleg, byddwn yn defnyddio’r Fanyleb Person i greu rhestr fer o blith yr ymgeiswyr. Dylech gynnig tystiolaeth o sut rydych yn bodloni’r holl Feini Prawf Hanfodol a amlinellir yn y Fanyleb Person, a’r Meini Prawf Dymunol os yw hynny’n berthnasol. Dylech gynnig tystiolaeth ysgrifenedig ar sut rydych yn bodloni pob un o’r Meini Prawf Hanfodol (a Dymunol os yw hynny’n berthnasol). Yn yr adran ‘Gwybodaeth Bellach’, dylech nodi tystiolaeth am sut rydych yn bodloni’r meini prawf yn yr un drefn ag y maent yn ymddangos yn y Fanyleb Person.

Noder, mae Coleg y Cymoedd yn arddel yr hawl i gau’r swydd hon yn gynnar os bydd digon o geisiadau yn dod i law

Cyswllt:

Am unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r broses ymgeisio, cysylltwch â people@cymoedd.ac.uk