MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Pen-y-bont ar Ogwr,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Heb gymhwyso: £25,371 - £29,942 y flwyddyn Cymwysedig: £32,304 - £49,934 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 08 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Heb gymhwyso: £25,371 - £29,942 y flwyddyn Cymwysedig: £32,304 - £49,934 y flwyddyn
Darlithydd Gwaith BricsHeb gymhwyso: £25,371 - £29,942 y flwyddyn
Cymwysedig: £32,304 - £49,934 y flwyddyn
Llawn Amser (37 awr yr wythnos) a Pharhaol
Ydych chi'n feistr ar eich crefft, yn angerddol am waith brics, ac yn barod i ysbrydoli? Rydym yn chwilio am Ddarlithydd Gwaith Brics deinamig ac ymroddedig i ymuno â Choleg Penybont!
Diben y swydd: Cynllunio, datblygu, gwerthuso a chyflwyno cynnwys cwricwlwm rhaglenni yn effeithiol ac yn effeithlon.
Bydd gennych wybodaeth gyfredol a pherthnasol mewn Adeiladu a phrofiad o sgiliau adeiladu gan gynnwys Gosod Brics ynghyd â phrofiad diwydiannol perthnasol, diweddar. Bydd gennych gymhwyster masnach NVQ Lefel 3 mewn Gwaith Brics neu gyfwerth a/neu dystysgrif TAR (neu mae'n ofyniad i'w gyflawni) yn hanfodol. Gyda sgiliau rhyngbersonol rhagorol a'r gallu i uniaethu â phoblogaeth eang ac amrywiol o fyfyrwyr, byddwch yn angerddol am gymell pob dysgwr
Ymunwch â ni a helpwch i adeiladu gweithlu'r dyfodol, un fricsen ar y tro!
Dyddiad cyfweld: 15fed Gorffennaf 2025
I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd.
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar Wiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Athro Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.
Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.
Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.