MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £37,938 (Pro rata) - Yn Ystod Tymor yr Ysgolion
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 10 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Ymgynghorydd Materion Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant (Ysgolion)
Rhondda Cynon Taf
Cyflog: £37,938 (Pro rata) - Yn Ystod Tymor yr Ysgolion
Ymgynghorydd Materion Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant (Ysgolion)Disgrifiad Swydd
Ymgynghorydd Materion Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant Dros Dro (Yn Ystod y Tymor - Ysgolion)
Ydych chi'n frwdfrydig am gefnogi pobl ifainc ledled RhCT i gael gyrfaoedd llwyddiannus? Ydych chi'n mwynhau gweithio'n hyblyg a gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl?
Os ydych chi, mae cyfle cyffrous ar gael yn rhan o'r Garfan Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant i unigolyn proffesiynol, llawn cymhelliant, sydd â'r profiad perthnasol, weithio gyda chyflogwyr a phobl ifainc ledled RhCT.
A chithau'n Ymgynghorydd Materion Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant (Ysgolion), byddwch chi'n gweithio'n agos gydag ysgolion cynradd ac uwchradd, ysgolion anghenion addysgol arbennig ac anableddau ac unedau atgyfeirio disgyblion yn RhCT. Byddwch chi'n darparu ystod o raglenni ac achlysuron i wella cyflogadwyedd pobl ifainc. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
- Meddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyflwyno arbennig.
- Canolbwyntio ar fanylion a chanlyniadau, ac yn gallu datrys problemau gyda sgiliau ymchwil a dadansoddi da.
- Deall y cyfleoedd sydd ar gael i ddisgyblion ysgolion uwchradd yn y sectorau cyhoeddus a phreifat a'r trydydd sector.
Mae buddion gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnwys:
- Gweithio hybrid
- Cynllun Pensiwn
- Ffioedd aelodaeth rhatach i Ganolfannau Hamdden yn Rhondda Cynon Taf
- Cerdyn gostyngiadau Vivup i'w ddefnyddio gyda busnesau
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Nicola Barnes ar 07384 910488.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe'ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i'r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o'r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy'n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.