MANYLION
  • Lleoliad: Bridgend, CF31 4WB
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Soulbury 18 - 21 (a 3 SPA) £65,342 - £72,507
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 09 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Partner Gwella Ysgolion (Cyfrwng Cymraeg)

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: Soulbury 18 - 21 (a 3 SPA) £65,342 - £72,507

Partner Gwella Ysgolion (Cyfrwng Cymraeg)
Disgrifiad swydd
Partner Gwella Ysgolion Cynradd (mae profiad o uwch arweinyddiaeth mewn ysgol cyfrwng Cymraeg yn hanfodol)

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ceisio penodi arweinydd ysgol gynradd eithriadol a phrofiadol i ymuno â'n Tîm Gwella Ysgolion sydd newydd ei sefydlu.

Mae hwn yn gyfle unigryw i gael effaith ystyrlon ar addysg ar draws ein hawdurdod lleol drwy weithio mewn partneriaeth agos gydag arweinwyr ysgolion a phartneriaid strategol.

Rydym yn chwilio am unigolyn dynamig sydd â llwyddiant blaenorol o ran ysgogi gwella ysgol, sydd wedi gwasanaethu (yn ddelfrydol) fel pennaeth mewn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi ysgolion Cymraeg a Saesneg, gan gyfrannu at ddiwylliant o welliant parhaus a safonau uchel.

Cyfrifoldebau allweddol

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:

Cydweithio ag arweinwyr ysgolion a phartneriaid i gefnogi hunanwerthuso a chynllunio gwella ysgolion;

Darparu cymorth amserol, wedi'i deilwra i ysgolion yn seiliedig ar eu blaenoriaethau unigol;

Cyfrannu at ddatblygu a gweithredu strategaethau addysg yr awdurdod lleol; a

Rhannu arfer effeithiol a meithrin arloesi ar draws y system ysgol.

Yr hyn rydym yn chwilio amdano

Mae'n bwysig bod gennych:

Gefndir cryf ym maes arweinyddiaeth addysg gynradd, yn enwedig mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg;

Dangos llwyddiant wrth arwain mentrau gwella ysgol;

Sgiliau cyfathrebu a meithrin partneriaeth rhagorol; ac

Ymrwymiad i godi safonau a gwella canlyniadau i bob dysgwr.

Yr hyn rydym yn ei gynnig

Byddwch yn cael budd o'r:

Cyfle i fod yn rhan o ddyfodol newydd ar gyfer gwella ysgolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr;

Amgylchedd tîm cefnogol a blaengar;

Datblygiad proffesiynol o ansawdd uchel; a'r

Cyfle i weithio gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid addysgol.

Os ydych yn angerddol am wneud gwahaniaeth ac yn barod i gymryd y cam nesaf yn eich taith arweinyddiaeth, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!.

Mae croeso i ddarpar ymgeiswyr gysylltu â Darren Jones (Rheolwr Grŵp, Gwella Ysgolion) i drefnu trafodaeth anffurfiol:

darren.jones@cscjes.org.uk.

Mae'r gallu i sgwrsio â chwsmeriaid ac ymateb i ohebiaeth yn hyderus ac yn hawdd drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o ofynion y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.

Dyddiad Cau: 09 Gorffennaf 2025

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 10 Gorffennaf 2025

Dyddiad y Cyfweliad: 14 Gorffennaf 2025

Dyddiad cychwyn: Dydd Llun 1 Medi (neu cyn gynted â phosibl ar ôl y dyddiad hwn)

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person