MANYLION
  • Lleoliad: Nantgarw Campus,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: 26,019 - £49,962.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 13 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Foundation Learning Lecturer

Coleg Y Cymoedd

Cyflog: 26,019 - £49,962.00

Foundation Learning Lecturer
Swydd ddisgrifiad
Am y rôl:

Rydyn ni’n chwilio am Ddarlithydd Dysgu Sylfaen i gynnig cyfarwyddyd ymarferol a damcaniaethol i ddysgwyr. Bydd yr ymgeisydd delfrydol nid yn unig yn meddu ar arbenigedd cadarn mewn pwnc a sgiliau addysgu cadarn ond hefyd yn gallu dangos gwir ymrwymiad i feithrin amgylchedd dysgu cynhwysol ac anogol. Bydd gennych rôl allweddol i rymuso
myfyrwyr, a chynorthwyo eu teithiau dysgu unigol a’u helpu i gynyddu eu hyder a meithrin y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer llwyddo.

Gwybodaeth Bellach:

Mae angen i staff a gyflogir yng Ngholeg y Cymoedd fod yn gyfrifol am ddiogelu ac am hyrwyddo lles y dysgwr.

Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y mae'r Coleg yn gofyn amdanyn nhw, naill ai yn eich prif weithle neu yn adeiladau eraill y Coleg, sy'n gymesur â gradd a chyfrifoldebau'r rôl.

Cydnabyddir y gall dyletswyddau a chyfrifoldebau pob swydd newid o bryd i’w gilydd a gellir diwygio disgrifiadau swydd mewn ymgynghoriad â deiliad y swydd i adlewyrchu’r newidiadau hynny sy’n gymesur â’r rôl.

Canllawiau Cais:

Yn unol â Pholisi Recriwtio’r Coleg, byddwn yn defnyddio’r Fanyleb Person i greu rhestr fer o blith yr ymgeiswyr. Dylech gynnig tystiolaeth o sut rydych yn bodloni’r holl Feini Prawf Hanfodol a amlinellir yn y Fanyleb Person, a’r Meini Prawf Dymunol os yw hynny’n berthnasol. Dylech gynnig tystiolaeth ysgrifenedig ar sut rydych yn bodloni pob un o’r Meini Prawf Hanfodol (a Dymunol os yw hynny’n berthnasol). Yn yr adran ‘Gwybodaeth Bellach’, dylech nodi tystiolaeth am sut rydych yn bodloni’r meini prawf yn yr un drefn ag y maent yn ymddangos yn y Fanyleb Person.

Noder, mae Coleg y Cymoedd yn arddel yr hawl i gau’r swydd hon yn gynnar os bydd digon o geisiadau yn dod i law

Cyswllt:

Am unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r broses ymgeisio, cysylltwch â people@cymoedd.ac.uk