MANYLION
  • Lleoliad: Heronsbridge,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon + ALN
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 02 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athrawes - Ysgol Heronsbridge

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon + ALN

Athrawes - Ysgol Heronsbridge
Disgrifiad swydd
32.5 awr yr wythnos

Mae Heronsbridge yn ysgol arbennig a gynhelir ar gyfer plant rhwng 3 ac 19 oed ag anawsterau dysgu difrifol, anawsterau dysgu dwys a lluosog ac awtistiaeth.

Mae'r corff llywodraethu yn dymuno penodi athro/athrawes ddosbarth ofalgar, ymrwymedig a brwdfrydig. Dylai ymgeiswyr feddu ar brofiad o weithio gyda disgyblion a chanddynt anawsterau dysgu difrifol, anawsterau dysgu dwys a lluosog ac awtistiaeth.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus arfer rhagorol yn yr ystafell dosbarth, gan gynnwys y defnydd o TGCh, disgwyliadau uchel o gyflawniadau ac ymddygiad disgyblion a pharodrwydd i weithio fel rhan o dîm i sicrhau gwella ysgolion.

Croesewir ceisiadau ac ymweliadau â'r ysgol.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 02 Gorffennaf 2025

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 07 Gorffennaf 2025

Dyddiad y Cyfweliad: 14 Gorffennaf 2025

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person