MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Bryn Castell,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £22,985 - £23,758 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Goruchwyliwr Llanw - Ysgol Bryn Castell - Dros Dro

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: £22,985 - £23,758 y flwyddyn

Goruchwyliwr Llanw - Ysgol Bryn Castell - Dros Dro
Disgrifiad swydd
32.5 awr yr wythnos

Dros dro hyd at ddeuddeg mis, neu nes bod deiliad y swydd yn dychwelyd, pa un bynnag sydd gynharaf

Dros dro am hyd at ddeuddeg mis, neu hyd nes bod deiliad y swydd yn dychwelyd; pa un bynnag sydd gynharaf

Croesewir cyfleoedd secondiad ar gyfer y swydd wag hon.

Mae Corff Llywodraethu Ysgol Arbennig Bryn Castell yn dymuno penodi Goruchwyliwr Llanw brwdfrydig, cydwybodol a gofalgar i weithio mewn tîm addysgu llawn cymhelliant a chyfeillgar, i gwmpasu secondiad o hyd at ddeuddeg mis. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn defnyddio dull cadarnhaol, arloesol, sy'n canolbwyntio ar atebion i hyrwyddo dysgu, ymgysylltu, presenoldeb a llesiant disgyblion, gan eu cynorthwyo i weithio tuag at gyflawni hunanreoleiddio ac annibyniaeth.

Mae Ysgol Bryn Castell (YBC) yn ysgol ddydd gymunedol arbennig a gynhelir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy'n darparu addysg i ddisgyblion 7 i 19 oed sydd ag Anawsterau Ymddygiadol, Emosiynol a Chymdeithasol (AYECh) cymhleth gan gynnwys awtistiaeth ochr yn ochr ag anawsterau dysgu penodol ac anghenion dysgu ychwanegol (ADY) eraill.

Croesewir ceisiadau gan gydweithwyr sy'n angerddol am alluogi pob person ifanc i gyflawni ei botensial llawn, sydd â phrofiad o weithio gydag ADY, ac sydd â gwybodaeth a dealltwriaeth dda o'r cwricwlwm, gan gynnwys strategaethau dysgu effeithiol i ddisgyblion ag ADY, ac sy'n awyddus i ddatblygu eu taith ddysgu broffesiynol mewn amgylchedd cynhwysol, gofalgar.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus fynediad at amrywiaeth o fuddion i gyflogeion gan gynnwys:

Gall pob cyflogai gael mynediad at raglen Gwobrwyon Brivilege sy'n rhoi mynediad at yr holl arbedion a buddion sy'n deillio o fod yn un o gyflogeion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys gostyngiadau gan fanwerthwyr mawr.

Mae pob cyflogai'n gymwys i gael aelodaeth am bris gostyngol yn Hamdden Halo sy'n rhoi mynediad diderfyn i ganolfannau Hamdden Halo ar draws y fwrdeistref sirol

Buddion aberthu cyflog gan gynnwys y cynllun beicio i'r gwaith.

Gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol: ceir amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael i hyrwyddo lles y staff. Mae'r rhain yn cynnwys cwnselydd mewnol, mynediad llawn at wasanaethau iechyd corfforol a meddyliol SAS a mynediad at VIVUP sy'n gallu darparu amrywiaeth o gymorth gan gynnwys cymorth ariannol, llesiant meddyliol a chorfforol.

Hyfforddiant a Datblygiad: Mae Ysgol Bryn Castell yn cydnabod pwysigrwydd dysgu i lwyddiant y sefydliad ac rydym yn ymrwymedig i fuddsoddi yn ein staff a'u datblygu.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion sydd mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd i bob gweithiwr cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda rhestr Gwahardd Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 04 Gorffennaf 2025

Dyddiad y Rhestr Fer: Wythnos yn dechrau 07 Gorffennaf 2025

Dyddiad y Cyfweliad: Wythnos yn dechrau 14 Gorffennaf 2025

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person