MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Bryn Castell,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: £28,571 - £30,171 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Cyswllt Rhwng y Cartref a'r Ysgol - Ysgol Bryn Castell

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: £28,571 - £30,171 y flwyddyn

Swyddog Cyswllt Rhwng y Cartref a'r Ysgol - Ysgol Bryn Castell
Disgrifiad swydd
37 awr yr wythnos

Mae Llywodraethwyr Ysgol Arbennig Bryn Castell yn dymuno penodi Swyddog Cyswllt rhwng y Cartref a'r Ysgol i weithio gyda chymuned Ysgol Bryn Castell i hyrwyddo presenoldeb, ymgysylltu, diogelu a llesiant disgyblion gan eu cefnogi i weithio tuag at gyflawni hunanreoli ac annibyniaeth. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn defnyddio dull cadarnhaol, arloesol, sy'n canolbwyntio ar atebion i gefnogi a darparu gofal arbenigol, cymorth ac arweiniad i ddisgyblion sydd ag ymddygiad cymhleth a heriol a'u rhieni, eu gofalwyr a'u teuluoedd.

Mae Ysgol Bryn Castell (YBC) yn ysgol ddydd gymunedol arbennig a gynhelir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy'n darparu addysg i ddisgyblion 7 i 19 oed sydd ag Anawsterau Ymddygiadol, Emosiynol a Chymdeithasol (AYECh) cymhleth gan gynnwys awtistiaeth ochr yn ochr ag anawsterau dysgu penodol ac anghenion dysgu ychwanegol eraill.

Croesewir ceisiadau gan gydweithwyr sy'n dymuno ehangu eu taith ddysgu broffesiynol mewn amgylchedd gofalgar a chynhwysol sy'n angerddol am alluogi pob person ifanc i gyflawni ei botensial llawn.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus fynediad at amrywiaeth o fuddion i gyflogeion gan gynnwys:

Gall pob cyflogai gael mynediad at raglen Gwobrwyon Brivilege sy'n rhoi mynediad at yr holl arbedion a buddion sy'n deillio o fod yn un o gyflogeion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys gostyngiadau gan fanwerthwyr mawr.

Mae pob cyflogai'n gymwys i gael aelodaeth am bris gostyngol yn Hamdden Halo sy'n rhoi mynediad diderfyn i ganolfannau Hamdden Halo ar draws y fwrdeistref sirol

Buddion aberthu cyflog gan gynnwys y cynllun beicio i'r gwaith.

Gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol: ceir amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael i hyrwyddo lles y staff. Mae'r rhain yn cynnwys cwnselydd mewnol, mynediad llawn at wasanaethau iechyd corfforol a meddyliol SAS a mynediad at VIVUP sy'n gallu darparu amrywiaeth o gymorth gan gynnwys cymorth ariannol, llesiant meddyliol a chorfforol.

Hyfforddiant a Datblygiad: Mae Ysgol Bryn Castell yn cydnabod pwysigrwydd dysgu i lwyddiant y sefydliad ac rydym yn ymrwymedig i fuddsoddi yn ein staff a'u datblygu.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion sydd mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd i bob gweithiwr cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda rhestr Gwahardd Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 04 Gorffennaf 2025

Dyddiad y Rhestr Fer: Wythnos yn dechrau 07 Gorffennaf 2025

Dyddiad y Cyfweliad: Wythnos yn dechrau 14 Gorffennaf 2025

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person