MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Coety Primary,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 03 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro FTE 0.2 - Ysgol Gynradd Coety
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
Athro FTE 0.2 - Ysgol Gynradd CoetyDisgrifiad swydd
6.5 awr yr wythnos
I ddechrau o fis Medi 2025
Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Coety yn ceisio penodi athro/athrawes drefnus, llawn cymhelliant ac effeithiol iawn, gyda sgiliau gwych o ran rheoli ystafell ddosbarth, i ymuno â'n tîm cyfeillgar, arloesol a phroffesiynol. Rydym yn chwilio am ymarferydd rhagorol sy'n angerddol am ddarparu profiadau dysgu ysbrydoledig. Bydd angen i'r ymgeisydd fwynhau gweithio fel rhan o dîm a gallu addysgu drwy'r cyfnod cynradd cyfan.
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn:
Ymarferydd rhagorol yn yr ystafell dosbarth
Yn hyblyg, yn gweithio'n galed ac yn frwdfrydig
Yn meddu ar ddisgwyliadau uchel ar gyfer dysgu, ymddygiad a gofal yr holl ddisgyblion.
Ymrwymedig i safonau uchel.
Sgiliau trefnu, rhyngbersonol a chyfathrebu da.
Bod yn gwbl gefnogol i werthoedd ac ethos ein hysgol gynhwysol.
Mae Ysgol Gynradd Coety yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac yn disgwyl i'r holl staff rannu'r ymrwymiad hwn.
Mae'r gallu i gynnal sgwrs sylfaenol drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 3 Gorffennaf 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 10 Gorffennaf 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 11 Gorffennaf 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person