MANYLION
  • Lleoliad: Nottage Primary,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes - Ysgol Gynradd Notais - Dros Dro

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon

Athro/Athrawes - Ysgol Gynradd Notais - Dros Dro
Disgrifiad swydd
32.5 awr yr wythnos

Dros dro hyd at 31 Awst 2026

Mae'r Corff Llywodraethu yn ceisio penodi athro/athrawes brofiadol, sy'n arloesol, yn greadigol ac yn ymarferydd ysbrydoledig yn yr ystafell ddosbarth sy'n ymrwymedig i gynorthwyo llesiant a dysgu plant ac sydd â dyheadau a disgwyliadau uchel ar gyfer y disgyblion y maent yn gweithio gyda nhw.

Yn Ysgol Gynradd Notais rydym yn ymrwymedig i ddatblygu proffesiynol o ansawdd uchel, a gallwn gynnig dysgwyr cyfeillgar, brwdfrydig, hapus a fydd yn herio eich ffordd o feddwl. Rydym yn ymrwymedig i lesiant staff a byddwn yn darparu amgylchedd gwaith cefnogol i bawb ynghyd â buddion personol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:

Ymarferydd rhagorol a phrofiadol yn yr ystafell ddosbarth gyda dealltwriaeth gadarn o'r Cwricwlwm i Gymru.

Gallu darparu profiadau dysgu o ansawdd uchel sy'n cefnogi ac yn herio pob dysgwr.

Gallu cynllunio profiadau dysgu ystyrlon dan do ac yn yr awyr agored.

Gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm llwyddiannus a rheoli staff cymorth.

Yn drefnus ac yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol rhagorol.

Cysylltu a gweithio gyda rhieni, llywodraethwyr, a'r gymuned ehangach.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion sydd mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd i holl weithwyr y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda rhestr Gwahardd Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 26 Mehefin 2025

Dyddiad Llunio Rhestr Fer: 30 Mehefin 2025

Dyddiad y Cyfweliad: 07 a 08 Gorffennaf 2025

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person