MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Bridgend, CF31 4WB
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: £18,947 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 02 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Gweithiwr Gofal Plant Dechrau'n Deg – Dechrau'n Deg - Dros Dro
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: £18,947 y flwyddyn
Gweithiwr Gofal Plant Dechrau'n Deg - Dechrau'n Deg - Dros DroDisgrifiad swydd
32 awr yr wythnos
Amser Tymor
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn croesawu ceisiadau o fewn ei Rhaglen Dechrau'n Deg. Mae Dechrau'n Deg yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac mae ar gael mewn ardaloedd targedig sy'n cefnogi pob teulu i roi Dechrau'n Deg mewn bywyd i blant 0-3 oed. Nod y rhaglen yw darparu gwasanaethau cymorth dwys i blant a'u teuluoedd
Ydych chi'n angrerddol am wneud gwahaniaeth ym mywydau plant ifanc?
Rydym yn chwilio am Weithiwr Gofal Plant ymroddedig a brwdfrydig i ymuno â'n tîm Dechrau'n Deg, gan gefnogi plant 2-3 oed i roi'r dechrau gorau posibl iddynt mewn bywyd.
Pam ymuno â ni?
Mwynhewch y fantais o weithio'r tymor ysgol yn unig, gan gynnig cydbwydsedd gwych rhwng bywyd a gwaith.
Mynediad at Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol hael.
Byddwch yn rhan o dîm proffesiynol a chefnogol sy'n ymrwymedig i ddarparu addysg blynyddoedd cynnar o'r safon uchaf.
Gweithio'n agos gyda gweithwyr proffesiynol eraill drwy bartneriaethau aml-asiantaeth, gan sicrhau bod plant a theuluoedd yn cael y gefnogaeth orau bosib.
Cyfleodd parhaus ar gyfer datbylgiad proffesiynol a hyfforddiant.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Rowena Lee e-bostiwch Rowena.Lee@bridgend.gov.uk
Yr hyn rydym yn chwilio amdano:
Rhywun sy'n wirioneddol angerddol dros weithio gyda phlant ifanc.
Unigolyn gofalgar, cymhellgar ac ymroddedig, sy'n awyddus i gefnogi datblygiad plant.
Profiad neu ddealltwriaeth o weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill er mwyn cefnogi teuluoedd yn gynhwysfawr.
Profiad o weithio fel uwch aelod o staff mewn amgylchedd gofal plant.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion sydd mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd i holl weithwyr y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda rhestr Gwahardd Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 02 Gorffennaf 2025
Dyddiad Llunio Rhestr Fer: 03 Gorffennaf 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 11 Gorffennaf 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person