MANYLION
  • Lleoliad: Mynydd Cynffig Primary,
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: £12.60 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Goruchwylio Llanw - Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: £12.60 yr awr

Cynorthwyydd Goruchwylio Llanw - Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig
Disgrifiad swydd
Yn ôl yr angen

Mae Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig yn awyddus i benodi Goruchwyliwr Amser Cinio Llanw i weithio yn ystod amser cinio, yn ystod tymor yr ysgol yn unig.

Efallai y gelwir ar staff llanw i weithio ar fyr rybudd i gyflenwi absenoldeb aelodau eraill o staff yr ysgol yn amodol ar eu hargaeledd eu hunain, yn ystod amser cinio, rhwng 12pm – 1pm yn ôl y galw.

Gan weithio fel rhan o dîm, bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus oruchwylio'r plant ym mhob un o ardaloedd yr ysgol, yn ogystal â goruchwylio disgyblion mewn gemau ar y maes chwarae a'u cynnwys ynddynt.

Byddai profiad o weithio gyda phlant, a'r gallu i annog ymddygiad da a chwarae ymhlith disgyblion yn fantais, ond nid yw'n hanfodol oherwydd darperir hyfforddiant.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion sydd mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd i bob gweithiwr cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda rhestr Gwahardd Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 26 Mehefin 2025

Dyddiad Llunio Rhestr Fer: 30 Mehefin 2025

Dyddiad y Cyfweliad: 07 Gorffennaf 2025

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person