MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Nottage Primary,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro/Athrawes - Ysgol Gynradd Notais - Cyfnod Mamolaeth
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
Athro/Athrawes - Ysgol Gynradd Notais - Cyfnod MamolaethDisgrifiad swydd
32.5 awr yr wythnos
Athro/Athrawes Cam Cynnydd 2 – Dros Gyfnod Mamolaeth yn Ysgol Gynradd Notais
Dros dro am hyd at 12 mis neu hyd nes y bydd deiliad y swydd yn dychwelyd; pa un bynnag sydd gynharaf
Disgwylir i'r swydd ddechrau ar 1 Tachwedd 2025.
Mae'r Corff Llywodraethu yn ceisio penodi athro/athrawes brofiadol, sy'n arloesol, yn greadigol ac yn ymarferydd ysbrydoledig yn yr ystafell ddosbarth sy'n ymrwymedig i gynorthwyo llesiant a dysgu plant ac sydd â dyheadau a disgwyliadau uchel ar gyfer y disgyblion y maent yn gweithio gyda nhw.
Yn Ysgol Gynradd Notais rydym yn ymrwymedig i ddatblygu proffesiynol o ansawdd uchel, a gallwn gynnig dysgwyr cyfeillgar, brwdfrydig, hapus a fydd yn herio eich ffordd o feddwl. Rydym yn ymrwymedig i lesiant staff a byddwn yn darparu amgylchedd gwaith cefnogol i bawb ynghyd â buddion personol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
Ymarferydd rhagorol a phrofiadol yn yr ystafell ddosbarth gyda dealltwriaeth gadarn o'r Cwricwlwm i Gymru.
Gallu darparu profiadau dysgu o ansawdd uchel sy'n cefnogi ac yn herio pob dysgwr.
Gallu cynllunio profiadau dysgu ystyrlon dan do ac yn yr awyr agored.
Gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm llwyddiannus a rheoli staff cymorth.
Yn drefnus ac yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol rhagorol.
Cysylltu a gweithio gyda rhieni, llywodraethwyr, a'r gymuned ehangach.
Gwers Dosbarth 20 munud a chyflwyniad 10 munud i'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth/Llywodraethwyr
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus o ddiwrnod 1 yn cael eu gwahodd i gyfweliad ar ddiwrnod 2
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion sydd mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd i holl weithwyr y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda rhestr Gwahardd Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 26 Mehefin 2025
Dyddiad Llunio Rhestr Fer: 30 Mehefin 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 07 a 08 Gorffennaf 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person