MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ysgol Bryn Castell,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: £25,097 - £26,502 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 04 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Rheolwr Adfer Dysgu - Ysgol Bryn Castell
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: £25,097 - £26,502 y flwyddyn
Rheolwr Adfer Dysgu - Ysgol Bryn CastellDisgrifiad swydd
32.5 awr yr wythnos
Yn ystod tymor yr ysgol
Mae Llywodraethwyr Ysgol Arbennig Bryn Castell yn dymuno penodi Rheolwr Adfer Dysgu sydd â'r rhinweddau priodol i weithio gyda chymuned Ysgol Bryn Castell i hyrwyddo rheoli ymddygiad cadarnhaol, llesiant, presenoldeb ac ymgysylltu disgyblion, beth bynnag yw eu hanghenion, gan eu cefnogi i weithio tuag at gyflawni hunanreoli ac annibyniaeth.
Mae Ysgol Bryn Castell yn ysgol gymunedol arbennig a gynhelir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy'n darparu addysg i ddisgyblion 7 i 19 oed sydd ag Anawsterau Ymddygiad, Emosiynol a Chymdeithasol (AYECh) cymhleth gan gynnwys awtistiaeth ochr yn ochr ag anawsterau dysgu penodol ac anghenion dysgu ychwanegol eraill.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymarferydd ysgol arbennig profiadol gyda dealltwriaeth wych o ddisgyblion ag Anawsterau Ymddygiadol, Emosiynol a Chymdeithasol (AYECh) gan gynnwys awtistiaeth ynghyd ag anawsterau dysgu penodol ac anghenion dysgu ychwanegol eraill. Bydd yn defnyddio dull sy'n ystyriol o drawma, rheoli ymddygiad cadarnhaol, PBS i gydlynu a gweithredu rhaglenni, darpariaeth a gofal arbenigol y cytunwyd arnynt i ddisgyblion. Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus helpu disgyblion sydd ag ymddygiad cymhleth a heriol i oresgyn rhwystrau i ddysgu, gan gynnwys datblygu eu potensial drwy godi safonau ymddygiad ar gyfer dysgu, presenoldeb ac ymgysylltu. Bydd y gofal, cymorth ac arweiniad arbenigol hyn yn cael eu cynnig i ddisgyblion a'u rhieni/gofalwyr/teuluoedd, yn Ysgol Bryn Castell a thu hwnt.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 4 Gorffennaf 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: Wythnos yn Dechrau 07 Gorffennaf 2025
Dyddiad y Cyfweliad: Wythnos yn Dechrau 14 Gorffennaf 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person