MANYLION
  • Lleoliad: St Mary’s & St Patricks Roman Catholic Primary School,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes - Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair a Sant Padrig

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon

Athro/Athrawes - Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair a Sant Padrig
Disgrifiad swydd 32.5 awr yr wythnos

Mae Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair a Sant Padrig yn ysgol fywiog a chyffrous yng nghwm prydferth Maesteg, yn Archesgobaeth Caerdydd. Ar hyn o bryd mae ychydig o dan 200 o ddisgyblion ar y gofrestr. Rydym yn ymfalchïo mewn bod yn ysgol glos, un dosbarth mynediad gyda theimlad cryf o gymuned. Mae hwn yn gyfle cyffrous i athro/athrawes ymuno â'n tîm bach, cefnogol a chyfeillgar a darparu cyfleoedd rhagorol i'n disgyblion. Nid oes rhaid i chi fod yn Gatholig i addysgu yn ein hysgol; y cyfan a ofynnwn yw eich bod yn cynnal ein gwerthoedd Catholig ac yn cymryd rhan lawn ym mywyd Catholig ein hysgol.

Byddai'r rôl hon yn gyfle gwych i ymarferydd profiadol. Hoffem glywed gennych os ydych yn:

Athro/athrawes ragorol sy'n gallu ysgogi, ysbrydoli a darparu her i ddisgyblion yn eu dysgu.

Yn barod i feithrin perthnasoedd cryf a chefnogol gyda disgyblion, teuluoedd a staff

Yn meddu ar ddisgwyliadau uchel mewn perthynas ag ymddygiad disgyblion.

Yn awyddus i gymryd rhan lawn ym mywyd ehangach yr ysgol.

Yn cynnal ethos Catholig ein hysgol.

Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn:

Athro/athrawes gymwysedig sy'n gallu dangos hanes llwyddiannus o hwyluso datblygiad academaidd ac arddull addysgu greadigol a difyr

Hanes blaenorol o arwain maes cynllun datblygu ysgol, gyda llwyddiant

Yn meddu ar allu a phrofiad addysgu ar draws y camau cynnydd

profiad o addysgu plant ADY

Sgiliau gwych wrth reoli ystafell ddosbarth

Gallu defnyddio eu menter eu hunain a dod yn rhan hanfodol o'n tîm

Bod yn weithgar, yn frwdfrydig ac yn ymroddedig

Cynnal ethos Catholig ein hysgol

Yn Ysgol y Santes Fair a Sant Padrig byddwch yn dod o hyd i:

Yr un plant hwyliog, swnllyd a chyffrous ag y byddech yn eu cael ym mhob ysgol.

Teuluoedd cefnogol a chadarnhaol.

Croeso cynnes gan yr holl staff a llywodraethwyr.

Ysgol sy'n amgylchedd hapus, cyfeillgar a chadarnhaol.

Cysylltwch â'r Mrs N Kelly-Fisher, Pennaeth, i drefnu ymweliad neu i wneud cais am becyn cais drwy'r post, dros y ffôn neu drwy neges e-bost

Lleoliad:

Ysgol Catholig Gynradd Gatholig y Santes Fair a Sant Padrig. Stryd Monica. Maesteg. CF34 9AY

Ffôn: 01656 815585

E-bost: head@stmstpcs.bridgend.cymru

Gwefan: Ysgol Gynradd y Santes Fair a Sant Padrig - Hafan

Dylai ceisiadau fod ar ffurflen Gwasanaeth Addysg yr Eglwys Gatholig, y gellir ei lawrlwytho o http://catholiceducation.org.uk/ neu gallwch gael copi ohoni o'r ysgol, ynghyd â manylion pellach. Rydym yn croesawu ymweliadau â'r ysgol drwy drefniant ymlaen llaw.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion sydd mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd i holl weithwyr y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda rhestr Gwahardd Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 30 Mehefin 2025

Dyddiad Llunio Rhestr Fer: 02 Gorffennaf 2025

Dyddiad Cyfweliad: 10 Gorffennaf 2025

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person