MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Wrexham, Wrexham, LL11 1HR
- Testun: Cymorth
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Fesul awr
- Iaith: Saesneg
- Dyddiad Cau: 02 Gorffennaf, 2025 12:00 y.p
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Mae gennym gyfle gwych ar gyfer Cynorthwywyr Cefnogi Dysgwyr i gefnogi ein dysgwyr sy'n oedolion yn ein cyrsiau Gwnïo a Chelfyddydau Creadigol mewn lleoliadau ledled Wrecsam. Byddwch yn cefnogi ac yn cynorthwyo dysgwyr yn unol â'u hanghenion, polisïau a gweithdrefnau sefydliadol, a meini prawf asesu pwnc. Byddwch yn sefydlu perthynas gwaith adeiladol ac effeithiol gyda'r dysgwyr, gan weithio mewn partneriaeth â ac o dan gyfarwyddyd tiwtoriaid y dosbarth. Byddwch yn gweithredu gweithgareddau dysgu wedi'u cynllunio a/neu raglenni addysgu fel y cytunwyd gyda'r tiwtoriaid. Byddai sgiliau gwnïo a/neu sgiliau celfyddyd greadigol yn fanteisiol.
Mae rôl Cynorthwywyr Cefnogi Dysgwyr yn rôl amrywiol, ymarferol lle byddwch yn gweithio’n annibynnol yn ogystal â gyda thîm y rhanbarth.
Byddwch yn gyfrifol am (ond nid yn gyflawn):
- Cefnogi a chynorthwyo dysgwyr yn unol ag anghenion y dysgwyr ac polisïau a gweithdrefnau Addysg Oedolion Cymru
- Sefydlu perthnasoedd gwaith adeiladol ac effeithiol gyda dysgwyr a rhyngweithio â nhw yn unol â'u hanghenion unigol, a helpu i feithrin eu hyder a gwella hunan-barch
- Cefnogi dysgwyr mewn gweithgareddau ymarferol amrywiol yn unol â meini prawf asesu pwnc y cwrs
Os oes gennych y sgiliau cywir, ac eisiau gweithio mewn maes hynod werth chweil lle mae eich gweithredoedd yn gwneud gwahaniaeth i bobl ledled Cymru, yna byddem wrth ein bodd yn derbyn eich cais.
Ymgeisiwch erbyn 12yp Dydd Mercher 2il Gorffennaf 2025 gan ddefnyddio'r ffurflen gais ar gael ar wefan Addysg Oedolion Cymru - nodwch nad ydym yn derbyn CV. Ceir rhagor o fanylion am y rôl ynghyd â manyleb swydd a person yn y pecyn cais.
Mae Addysg Oedolion Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a thyfu ei weithlu dwyieithog ac amrywiol. Gellir cyflwyno ceisiadau am unrhyw swydd yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i’n llwyddiant, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o unrhyw gefndir sydd â’r profiad a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r rôl hon.