MANYLION
  • Lleoliad: Llanelli, Sa15 4DN
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £24,881 - £26,998 / blwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Anogwr Bugeiliol

Coleg Sir Gar

Cyflog: £24,881 - £26,998 / blwyddyn

Anogwr Bugeiliol
Application Deadline: 30 June 2025

Department: Cymorth Dysgu

Employment Type: Parhaol - Llawn Amser

Location: Campws Graig

Reporting To: Head of Curriculum

Compensation: £24,881 - £26,998 / blwyddyn

DescriptionMae'r coleg yn dymuno penodi Anogwr Bugeiliol i roi cefnogaeth ac arweiniad i ddysgwyr mewn maes cwricwlwm penodol. Bydd gwaith yr Anogwr Dysgu yn galluogi pobl ifanc i oresgyn rhwystrau i ddysgu yn well a chyflawni canlyniadau dysgwyr llwyddiannus.

Bydd gwaith yr Anogwr Bugeiliol yn ategu rhwydwaith cymorth ehangach y Gyfarwyddiaeth Profiad Dysgwyr o fewn y Coleg a gweithgareddau o fewn Meysydd Cwricwlwm. Bydd y gwaith yn gofyn am lefel uchel o gydweithio â staff eraill ar draws y Coleg. Mae'r rôl yn cynnwys mynd i'r afael â phroblemau a phryderon dysgwyr, hybu diwylliant cadarnhaol a gofalgar, cyflwyno sesiynau datblygiad personol, a gweithio ar y cyd a thîm o Anogwyr Cynnydd i gyflawni dangosyddion perfformiad allweddol blynyddol.

Cyfrifoldebau Allweddol Dyletswyddau Cyffredinol/Dyraniad
  • Rheoli hyd at 10 grŵp o ddysgwyr;
  • Monitro presenoldeb dysgwyr unigol a mynd i'r afael â phroblemau presenoldeb gan ddefnyddio technegau rheoli ymddygiad yn gadarnhaol;
  • Mynd i'r afael â phroblemau presenoldeb fel y nodir yn y polisi monitro a rheoli presenoldeb;
  • Cynnal sesiynau tiwtorial grŵp wythnosol awr o hyd wedi'u hamserlennu gyda phob grŵp;
  • Ymgymryd ag adolygiadau cynnydd un-i-un gyda dysgwyr unigol a sesiynau gosod targedau unwaith bob hanner tymor;
  • Neilltuo amser ar gyfer tasgau gweinyddol, monitro a rheoli presenoldeb, gofal bugeiliol, cyfarfodydd rhieni a chefnogaeth un-i-un;
  • Cynnal a chadw dogfennaeth fewnol;
  • Cwblhau elfen tiwtor bugeiliol adroddiadau interim a chrynodol dysgwyr;
  • Mynychu a chyfrannu at ddigwyddiadau ymgynghori â rhieni fel anogwr bugeiliol;
  • Cyfrannu at waith y coleg ar ddiogelu yn unol â'r polisi a phrosesau adrodd;
  • Mynychu a chymryd rhan mewn unrhyw gyfarfodydd mewnol perthnasol megis;
  • Gwrandawiadau disgyblu, adolygiadau dysgwyr, cyfarfodydd amlddisgyblaethol, cyfarfodydd tîm;
  • Datblygu, hwyluso a chyflwyno gweithgareddau pontio gyda'r nod o gefnogi dysgwyr i mewn i'r coleg;
  • Cydweithio â holl staff eraill y gyfadran i rannu gwybodaeth berthnasol.
Cefnogaeth Un-i-Un
  • Cynnal cyfarfodydd un-i-un rheolaidd gyda'r holl ddysgwyr a neilltuwyd i chi trwy gydol y flwyddyn academaidd;
  • Cysylltu ag arweinydd y rhaglen a defnyddio systemau digidol cwrs i fonitro ac olrhain cynnydd dysgwyr;
  • Gosod ac adolygu targedau bob tymor gyda phob dysgwr;
  • Nodi a rhoi ymyriadau priodol ar waith a gosod targedau i fynd i'r afael â phresenoldeb gwael;
  • Cefnogi dysgwyr i osod a chyflawni eu cyrchnodau unigol.
Sesiynau Datblygiad Personol/Tiwtorial
  • Cyflwyno sesiynau tiwtorial personol a gynlluniwyd gan y tîm cefnogi dysgwyr canolog;
  • Cefnogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth y tu hwnt i'w cymwysterau;
  • Annog cyfranogiad gweithredol mewn gweithgareddau datblygiad personol a chyfoethogi.
Cyflogadwyedd ac Arweiniad Gyrfa
  • Cysylltu â'r tîm Byddwch yn Uchelgeisiol i gydlynu rhaglen gyflogadwyedd ar gyfer pob dysgwr;
  • Hwyluso presenoldeb mewn sesiynau arweiniad gyrfa;
  • Cynorthwyo dysgwyr i wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â'u llwybrau gyrfa a'u llwybrau dilyniant yn y dyfodol;
  • Darparu cymorth i ddysgwyr gyda cheisiadau UCAS a cheisiadau mewnol/allanol eraill;
  • Cefnogi dysgwyr wrth iddynt bontio i addysg uwch, hyfforddiant pellach, neu gyfleoedd cyflogaeth.
Cymryd Rhan yn Llais y Dysgwr
  • Cefnogi gweithgareddau a phrosesau Llais y Dysgwr;
  • Gweinyddu holiaduron dysgwyr a chyflawni Dangosyddion Perfformiad Allweddol (KPIs) sy'n gysylltiedig â chyfranogiad dysgwyr;
  • Annog dysgwyr i gymryd rhan weithredol wrth lunio eu profiad addysgol.
Rheoli Ymddygiad
  • Hybu ymddygiad cadarnhaol yn unol â gwerthoedd y coleg sef Bod yn Barod, Bod yn Barchus a Bod yn Ddiogel;
  • Mynd i'r afael â phryderon am ymddygiad dysgwyr yn brydlon ac yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r coleg;
  • Rhoi ymyriadau priodol ar waith a chofnodi'r camau a gymerwyd;
  • Hybu amgylchedd dysgu cadarnhaol a pharchus.
Cefnogi
  • Myfyrwyr sydd mewn Perygl Cydweithio gyda chydweithwyr cwricwlwm a gwasanaethau myfyrwyr i nodi, cefnogi ac atgyfeirio myfyrwyr sydd “mewn perygl”;
  • Cwblhau asesiadau risg ar gyfer dysgwyr unigol lle bo angen;
  • Rhoi ymyriadau priodol a strategaethau cymorth i fyfyrwyr ar waith;
  • Monitro ac olrhain cynnydd dysgwyr sydd mewn perygl.

Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
  • Gradd neu gyfwerth
  • TGAU Saesneg & Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
  • Profiad a dealltwriaeth o weithio mewn ffordd sy'n Ystyriol o Drawma
  • Cyfathrebwr da
  • Sgiliau rhyngbersonol da
  • Y gallu i weithio'n gytûn gyda chydweithwyr
  • Sgiliau cyflwyno da
  • Y gallu i uniaethu â'r grŵp targed
  • Sgiliau llythrennedd cyfrifiadurol da
Dymunol:
  • TAR
  • Profiad perthnasol o weithio gyda phobl ifanc
  • Profiad o gymryd rhan yn weithredol mewn gofal bugeiliol pobl ifanc
  • Profiad o gyflwyno addysgu a dysgu
  • Profiad o reoli ymddygiad heriol yn effeithiol
Yr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 3/4
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 3/4
(Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwym)

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Buddion
  • Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein