MANYLION
  • Lleoliad: Bangor, Gwynedd, LL57 2TP
  • Testun: Darlithydd
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Salary Range: £18.50 - £28.60
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 06 Mehefin , 2022 12:00 y.p

This job application date has now expired.

DARLITHYDD MEWN SSIE, RHAN AMSER A DELIR YN ÔL YR AWR

DARLITHYDD MEWN SSIE, RHAN AMSER A DELIR YN ÔL YR AWR

Grwp Llandrillo Menai
Am wybodaeth pellach a ffurflen gais ewch i - https://www.gllm.ac.uk/jobs

PWRPAS Y SWYDD
Addysgu i safon uchel er mwyn creu cyfleoedd dysgu effeithiol ac er mwyn galluogi'r holl ddysgwyr i gyflawni hyd eithaf eu gallu.

PRIF DDYLETSWYDDAU

A: Asesu Anghenion Y Dysgwyr

A1. Asesu profiadau dysgu a chyflawniadau blaenorol dysgwyr mewn perthynas â rhaglen ddysgu ddynodedig
A2. Ymgymryd ag asesiadau cychwynnol a nodi unrhyw anghenion dysgu neu’r angen am gefnogaeth arbennig.
A3. Sicrhau bod dysgwyr yn cofrestru gyda'r coleg a chyrff dyfarnu

B: Cynllunio a Pharatoi Rhaglenni Dysgu ac Addysgu

B1. Nodi canlyniadau dysgu a pharatoi Cynlluniau Gwaith a Chynlluniau Gwersi ar gyfer rhaglenni perthnasol yn unol â gofynion cyrff dyfarnu a chanllawiau'r Grŵp.
B2. Sicrhau bod sgiliau sylfaenol (hanfodol) yn cael eu hintegreiddio i'r rhaglen ddysgu fel y bo'r angen
B3. Cynllunio ar gyfer anghenion ieithyddol y grŵp myfyrwyr er mwyn caniatáu i fyfyrwyr ddefnyddio'r iaith a ddewisant (Cymraeg neu Saesneg) lle bynnag y bo modd
B4. Dethol amrywiaeth o ddulliau dysgu i ddiwallu anghenion myfyrwyr

C: Rheoli'r Broses Ddysgu

C1. Sefydlu a chynnal amgylchedd dysgu ddiogel ac effeithiol
C2. Datblygu a defnyddio amrywiaeth o dechnegau dysgu ac addysgu er mwyn annog dysgu annibynnol a hwyluso dysgu trwy brofiadau
C3. Cynhyrchu a defnyddio deunyddiau dysgu priodol gan ddefnyddio technoleg gwybodaeth dysgu lle y bo modd
C4. Nodi a mynd i'r afael â diffyg cymhelliant a herio ymddygiad amhriodol
C5. Gosod tasgau heriol a chytuno ar dargedau a nodau unigol gyda dysgwyr lle bo hynny'n briodol
C6. Strwythuro sesiynau'n briodol i gadw at yr amserlen a chynnal diddordeb
C7. Cynnal a hybu cyfathrebu effeithiol gyda, a rhwng, yr holl ddysgwyr, gan ddefnyddio technoleg briodol lle bo hynny'n berthnasol
C8. Cynnal perthynas waith effeithiol o fewn timau'r rhaglen
C9. Cydymffurfio â systemau gwybodaeth coleg a sicrhau bod cydweithwyr yn cael yr holl wybodaeth angenrheidiol ar yr amser cywir ac ar y ffurf sefydliadol y cytunwyd arno
C10. Cyfrannu at holl systemau sicrhau ansawdd perthnasol y coleg; gweithdrefnau rheoli mewnol ac allanol
C11. Cymryd rhan mewn prosesau hunanasesu yn cynnwys gwerthuso modiwlau a chyrsiau

D: Darparu cefnogaeth i ddysgwyr

D1. Sicrhau bod dysgwyr yn ymwybodol o wasanaethau cefnogi a chynghori priodol ac yn gwybod sut i'w defnyddio
D2. Cynnal systemau tiwtora yn unol â chanllawiau'r coleg


E: Asesu’r deilliannau dysgu a chyflawniadau'r dysgwyr

E1. Cynllunio strategaethau asesu priodol ar gyfer rhaglenni dysgu yn unol â gofynion cyrff dyfarnu a rhoi gwybod i fyfyrwyr amdanynt
E2. Defnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu priodol i gynnal asesiadau teg a dibynadwy
E3. Sicrhau bod dysgwyr yn cael adborth ysgrifenedig a llafar, sy'n glir ac yn adeiladol, o fewn cyfnod priodol
E4. Cadw cofnodion asesu a darparu gwybodaeth i randdeiliaid perthnasol e.e. cydweithwyr, rhieni, cyflogwyr, cyrff dyfarnu

F: Ystyried a chloriannu eich perfformiad eich hun a chynllunio at y dyfodol

F1. Cloriannu eich ymarfer eich hun mewn perthynas ag anghenion y dysgwyr a'r rhaglen
F2. Defnyddio adborth o systemau sicrhau ansawdd i wella eich ymarfer eich hun
F3. Sicrhau eich bod yn ymwybodol o ddatblygiadau cyfredol yn eich maes arbenigol
F4. Cymryd rhan yn system Adolygu Perfformiad y coleg er mwyn cloriannu eich perfformiad ac adnabod anghenion datblygu
F5. Cymryd rhan mewn datblygiad proffesiynol parhaus perthnasol

G: Cyfrifoldebau Cyffredinol
G1. Cydymffurfio â pholisi Diogelwch, Iechyd a'r Amgylchedd Diwygiedig y Grŵp er mwyn cynnal amgylchedd gwaith ac amgylchedd addysgu diogel
G2. Cyflawni unrhyw ddyletswyddau priodol eraill sy’n ymwneud â’ch rôl a’ch swydd ar gais eich rheolwr atebol, Uwch Gyfarwyddwr neu'r Prif Weithredwr

JOB REQUIREMENTS
Fel a nodir yn y swydd ddisgrifiad ynghlwm