MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Noted in the Job Description,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: gweithio hyblyg
- Math o gyflog: Fesul awr
- Cyflog: £21.83 - £33.74 yr awr, yn cynnwys hawl gwyliau. Yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 01 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Darlithydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Gofal Plant. Rhan Amser a Delir wrth yr awr
Grwp Llandrillo Menai
Cyflog: £21.83 - £33.74 yr awr, yn cynnwys hawl gwyliau. Yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Rydym am benodi darlithydd i gyflwyno agweddau allweddol ar y cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant fel diogelu, datblygiad plant, egwyddorion a gwerthoedd gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol/gofal plant, iechyd a diogelwch; ymarfer proffesiynol ar gyfer y gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol.Bydd y rôl yn caniatau i chi ddatblygu fel darlithydd wrth weithio i'r ddwy adran, dan arweiniad a chefnogaeth y rheolwr rhaglen ac arweinwyr tîm. Bydd eich dyletswyddau'n cynnwys paratoi a chyflwyno sesiynau a addysgir i ddysgwyr; ynghyd â gweinyddu ac asesu. Rydym yn annog y defnydd o fethodolegau addysgu a dysgu ymarferol a gweithredol, i ddod â'r dysgu yn fyw. Byddwch yn gallu cymhwyso eich gwybodaeth a'ch profiad o'ch profiadau i'r addysgu a'r dysgu a gyflwynir. Bydd hyn yn sicrhau bod dysgwyr yn cael dealltwriaeth fanwl o'r sectorau.
Byddai gan ein hymgeisydd delfrydol brofiad blaenorol o addysgu a diwydiant yn y sectorau. Fodd bynnag, rydym hefyd yn croesawu'r rhai sydd am gymryd eu camau cyntaf i addysgu.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
BD/158/25
Cyflog
£21.83 - £33.74 yr awr, yn cynnwys hawl gwyliau. Yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Wedi ei nodi yn y Swydd Ddisgrifiad
Hawl gwyliau
Bydd hawl i wyliau â thâl pro rata ym mhob blwyddyn academaidd (1 Medi i 31 Awst), sy'n cynnwys hawl pro-rata i 8 Gŵyl Banc a Gwyliau Cyhoeddus a welir fel arfer yng Nghymru a hawl pro-rata o hyd at 5 o wyliau effeithlonrwydd (sylwer y gall hyn newid yn flynyddol). Mae gwyliau blynyddol yn deillio o hawl pro rata cyfwerth ag amser llawn o 46 diwrnod sydd wedi'i gynnwys yn y gyfradd fesul awr a delir.
Patrwm gweithio
Hyd at 20 awr yr wythnos Dydd Llun - Dydd Gwener, yn ystod y dydd. Patrwm gwaith i'w gytuno yn ddibynnol ar argaeledd. Maer pwnc a lefel y ddarpariaeth yn seiliedig ar gymwysterau a phrofiad
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon
Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr
Dyddiad cau
01 Gorff 2025
12:00 YH (Ganol dydd)